Diben y rôl hon yw cyfathrebu ynghylch gwaith rhwydwaith Caerdydd Creadigol er mwyn ymgysylltu ag aelodau a rhanddeiliaid ac adrodd stori Caerdydd fel prifddinas greadigol, gydweithredol a chynhwysol, sydd wedi’i chysylltu’n dda.
Gan gydweithio'n agos â’r Rheolwr Gweithrediadau ac Ymgysylltu, bydd deiliad y rôl yn datblygu ac yn cyhoeddi cynnwys digidol dwyieithog a chreadigol o ansawdd uchel ar gyfer gwefan, cylchlythyr a sianeli cyfryngau cymdeithasol Caerdydd Creadigol.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn defnyddio ei brofiad, arbenigedd a dawn i adrodd straeon gweithlu creadigol a hunaniaeth ddiwylliannol Caerdydd, yn unol â strategaeth Caerdydd Creadigol. Bydd hefyd yn deall yr heriau y mae pobl yn y sectorau creadigol a diwylliannol yn eu hwynebu yn y rhanbarth. Bydd yn gallu creu cynnwys gwreiddiol i sicrhau bod pobl greadigol o bob cefndir yn cael eu gweld a’u clywed.
Mae Caerdydd Creadigol yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl o gefndiroedd diwylliannol a chymdeithasol-economaidd amrywiol, a chan unigolion ag ystod eang o brofiadau bywyd go iawn. Ein nod yw datblygu tîm sy'n cofleidio creadigrwydd a safbwyntiau newydd.
Lleoliad: cyfuniad o weithio o bell a gweithio yn un o’n swyddfeydd yn Sbarc neu'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.
Cyflog: £26,444 - £29,605 y flwyddyn, pro rata (Gradd 4).
Swydd ran-amser yw hon am 3 diwrnod yr wythnos (60% cyfwerth ag amser llawn) a mae'r swydd am gyfnod penodol am 12 misoedd.
Os daw digon o geisiadau i law, sylwer bod Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r gorau i hysbysebu’r swydd hon yn gynnar.
Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn i ddethol pobl ar gyfer rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol ym Manyleb yr Unigolyn (a'r Meini Prawf Dymunol os yw'n berthnasol), gan ddefnyddio'r drefn/rhifo fel y maent yn ymddangos ar ffurf datganiad ategol. Cadwch fel 'Datganiad Name_XXXXXBR_Supporting' wrth lanlwytho eich atodiad fel y gellir ei adnabod yn hawdd.
Dyddiad hysbysebu: Dydd Gwener, 09 Awst 2024
Dyddiad cau: Dydd Sul, 01 Medi 2024
Prif Ddyletswyddau
- Defnyddio strategaeth gyfathrebu Caerdydd Creadigol fel sail i ddarparu cyngor a chanllawiau manwl ar brosesau a gweithdrefnau Caerdydd Creadigol, gan ddefnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu’r cam gweithredu mwyaf priodol er mwyn datblygu cynlluniau ac ymgyrchoedd aml-blatfform a dwyieithog ar gyfer rhwydwaith Caerdydd Creadigol.
- Gweithio gyda’r Rheolwr Gweithrediadau ac Ymgysylltu i wella ein ffyrdd o weithio, gan gynnwys ychwanegu cynnwys at wefan, cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyr Caerdydd Creadigol (gan gynnwys ysgrifennu erthyglau, cyfleoedd cyhoeddi a datganiadau i’r wasg a chyfrannu at y cylchlythyr pythefnosol).
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu platfformau cyfryngau cymdeithasol Caerdydd Creadigol (Facebook, Instagram, X a LinkedIn) gydag ymgyrchoedd newydd gan ddefnyddio tueddiadau presennol a dulliau arloesol.
- Creu cynnwys fideo a sain rheolaidd i safon uchel ac archwilio'r potensial ar gyfer datblygu sianel TikTok Caerdydd Creadigol.
- Hyrwyddo a gwarchod y brand, gan ddefnyddio canllawiau brand a hunaniaeth weledol Caerdydd Creadigol ar draws amrywiaeth o gyfryngau.
- Datblygu cynulleidfaoedd Caerdydd Creadigol, cynyddu lefelau ymgysylltu a chyfranogiad gydag ystod amrywiol o randdeiliaid a chymunedau ar-lein.
- Bod yn ymwybodol o’r cynnwys ar-lein poblogaidd diweddaraf, platfformau digidol a thechnoleg newydd a allai gael ei ddefnyddio i gyfathrebu ynghylch gweithgarwch Caerdydd Creadigol â chynulleidfa ehangach, gan asesu eu haddasrwydd ac effaith bosibl, a lle bo’n briodol, eu gweithredu gyda chymorth y Rheolwr Gweithrediadau ac Ymgysylltu.
- Cefnogi’r Rheolwr Gweithrediadau ac Ymgysylltu i gyfathrebu ynghylch gweithgarwch mewnol er mwyn hyrwyddo Caerdydd Creadigol a Chanolfan yr Economi Greadigol.
- Mynd i ddigwyddiadau a chyfarfodydd i hyrwyddo gwaith Caerdydd Creadigol, gan annog ymgysylltiad a datblygu perthnasoedd presennol a newydd.
- Monitro, mesur, gwerthuso ac adrodd ar weithgarwch cyfathrebu a marchnata yn rheolaidd.
- Gweithio gyda’r Rheolwr Gweithrediadau ac Ymgysylltu i gyflwyno strategaeth ymgysylltu â myfyrwyr Caerdydd Creadigol a datblygu ymgyrchoedd a syniadau cynnwys i ymgysylltu â myfyrwyr Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn y ddinas.
- Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi tîm ehangach Caerdydd Creadigol a Chanolfan yr Economi Greadigol.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Cadw at holl bolisïau'r Brifysgol ac ymgymryd â datblygiad personol a phroffesiynol priodol.
- Cyflawni dyletswyddau eraill nad ydynt wedi’u nodi uchod ond sy’n cyd-fynd â gofynion y swydd.
- Cynnal Gwerthoedd ac Ymddygiadau'r Gwasanaethau Proffesiynol neu werthoedd lleol cyfatebol.