Ym mis Ionawr 2025 bydd NTW TEAM yn cynhyrchu prosiect theatr ymdrochol ar draws tair ysgol gynradd yng Nghaerdydd fel rhan o’n cyllid o gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Fel rhan o'r prosiect hwn rydym yn bwriadu cysylltu â perfformwyr a dylunydd a fydd yn gweithio gyda'r cyfarwyddwr Duncan Hallis ac NTW TEAM ehangach i ddyfeisio a chyflawni'r prosiect hwn.
--
Rydym am gyflogi dylunydd i gefnogi’r gwaith o greu gosodwaith ffisegol a fydd yn teithio i bob ysgol gynradd ym mis Ionawr 2025. Bydd union natur y gosodwaith yn cael ei ddyfeisio gan y cwmni cyfan, gan gynnwys y dylunydd. Bydd y dylunydd yn cydweithio â'r cwmni ac yn ymateb i'r broses ddyfeisio, gan arwain ar adeiladu byd esthetig y prosiect a fydd yn cynnwys set a gwisgoedd.
Byddai'r dylunydd yn gweithio'n agos gyda'r cyfarwyddwr i helpu i greu'r byd, gan gymryd rhan yn y broses Y&D a bod yn bresennol trwy gydol yr wythnosau ymarfer a pherfformio.