Gŵyl Ffilm Undod Hijinx 2024

08/11/2024 - 11:00
Chapter, Caerdydd
Profile picture for user Hijinx

Postiwyd gan: Hijinx

info@hijinx.org.uk

Gŵyl Ffilm Undod 2024 - Dathliad Arloesol o Sinema Gynhwysol yng Nghymru

Gan ddwyn y ffilmiau cynhwysol gorau o bob rhan o’r byd i Chapter, Gaerdydd, mae’r ail Ŵyl Ffilm Undod Hijinx yn gyforiog o ffilmiau hir a byr cyffrous, fydd yn procio’r meddwl ac yn unigryw. Gyda ffilmiau dogfen, animeiddio, dramâu, comedïau, gwyddonias, dramâu cyfnod a phopeth yn y canol, mae ail Ŵyl Ffilm Undod yn cynnig rhywbeth i bawb, gan gynnwys sesiwn arbennig i gynulleidfaoedd iau. Gwnaed pob ffilm gan neu gyda phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Tocynnau:

  • Mae tocynnau ar gael ar gyfer dangosiadau unigol: £8 / £5
  • Neu gallwch brynu tocyn diwrnod ar gyfer y naill ddiwrnod neu’r llall (neu’r ddau), am bris gostyngol aruthrol o £25 (pris llawn) neu £17.50 (pris consesiynau)

Hygyrchedd:

  • Bydd gan bob ffilm gapsiynau caeedig. 
  • Bydd yr holl gwestiynau ac atebion a thrafodaethau panel, gan gynnwys y Digwyddiad Diwydiant yn cael eu dehongli o Saesneg i Iaith Arwyddion Prydain a bydd capsiynau byw yn cael eu darparu yn Saesneg. Dydd Gwener: Julie Doyle fydd yn cyfieithu’r Digwyddiad i’r Diwydiant. Claire Anderson fydd yn cyfieithu’r sesiwn Holi ac Ateb ar ôl y Sesiwn Fer 6pm – 7pm. Tony Evans fydd yn cyfieithu trwy’r dydd ar y dydd Sadwrn.
  • Mae disgrifiad sain ar gael ar gyfer pob ffilm.
  • Mae’r holl ffilmiau yn yr ŵyl yn ddangosiadau ymlacedig. Mae hyn yn golygu y bydd y goleuadau ymlaen yn isel a bod croeso i chi adael eich sedd, gwneud sŵn a symud o gwmpas. 
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event