Fio | Cyfarwyddwr Gweithredol

Cyflog
£36,000 pro rata
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
03.11.2020
Profile picture for user Fio

Postiwyd gan: Fio

Dyddiad: 19 October 2020

Mae Fio yn creu theatr eofn. Yn Lladin mae Fio yn golygu i berthyn, i greu, i dyfu.

Wedi’i ffurfio yn 2016, rydyn ni wedi tyfu’n gyflym i fewn i’r unig gwmni teithiol wedi’i arwain gan bobl DALlE wedi’i seilio yng Nghaerdydd ond sy’n gweithio ar draws y DU, mae Fio wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid o fewn Cymru a thu hwnt, gan ddatblygu enw da ar gyfer cynyrchiadau newydd; hyfforddiant a datblygiad artistiaid, ymrwymiad cymunedol a chydweithrediadau rhyngwladol. Mae ein holl waith yn ymrwymo â chyfiawnder cymdeithasol. Rydyn ni’n ymrwymedig i newid bywydau trwy gynnig cyfle i bobl sydd wedi’u tangynrychioli i fedru adrodd eu stori. Ein huchelgais yw i droi’r lleisiau ffiniol hyn i fewn i brosiectau a pherfformiadau sy’n atseinio â chynulleidfaoedd.

Mae Fio wedi cyrraedd moment eithriadol a chyffrous yn ei datblygiad. Bellach yn ei hail flwyddyn o gefnogaeth gan raglen Camau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a gyda chefnogaeth arwyddol ar gyfer y dyfodol, mae’r taw sydyn ar weithgaredd yn sgil COVID 19 wedi rhoi’r cyfle i ni gael ein gwynt atom i allu cryfhau a helaethu ein holl systemau a strwythurau mewnol yn barod ar gyfer apwyntio Cyfarwyddwr Artstig newydd ym misoedd cynnar 2021.

Ry’n ni’n chwilio am weithiwr celfyddydol proffesiynol profiadol gyda chefndir mewn datblygiad a rheolaeth cyfundrefnol i’n cefnogi ni ar y siwrnai hon.

O ystyried natur ein hymrwymiadau nawdd presenol ry’n ni wedi penderfynnu fod hyn yn gyfle unigryw i gynnig cytundeb tymor sefydlog i weithiwr proffesiynol profiadol - o bosib yn addas ar gyfer rhywun sy’n cymryd saib di-dal neu dros dro o safle gwaith presenol.

Mae Fio yn gobeithio gwneud cais i fod yn rhan o bortffolio Cyngor Celfyddydau Cymru o gwmnïau sy’n cael eu noddi’n rheolaidd. Nid yw amseru’r cais yma yn glir eto (canol 2021 ymlaen), felly mae hyn yn gyfle i sicrhau fod ein holl strwythurau a phrosesau mewnol, ein cylchredau trefnu a’n polisiau rheoliadol yn addas i’r pwrpas wrth i’r cwmni symud yn ei blaen.

I ymgeisio anfonwch CV a llythyr eglurhaol (dim mwy na dau ddalen o hyd) yn gyfeiriedig i Fwrdd Ymddiriedolwyr Fio gan nodi:

  • Pam yr ydych chi’n ymgeisio am y swydd.
  • Sut yr ydych chi’n credu y gallwch chi gyfrannu tuag at bennod nesaf dyfodol artistig Fio, gyda phwyslais benodol ar y cyfnod dros dro.
  • Sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn cydweddu â’r sgiliau a’r profiad a amlinellir yn y Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person
  • Manylion cyswllt ar gyfer dau ddyfarnwr
  • Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal wedi’i gwblhau (fe ddewch o hyd i hon ar wearefio.co.uk/opportunities)

Mae’n bosib y bydd cyfweliadau yn cael eu cynnig dros gyswllt fideo.

Cysylltwch â chair@wearefio.co.uk

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event