Ein sylfaenwyr

Ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd, ymunodd tri sefydliad amlwg i ddod yn aelodau sefydlu Caerdydd Creadigol yn 2015, er mwyn ein helpu i lunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am ein helpu i lansio, datblygu a darparu'r rhwydwaith er budd yr economi greadigol yn y ddinas. Dyma rai geiriau gan arweinwyr y sefydliadau hyn:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 19 August 2022

Headshot of Cllr Huw Thomas

Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:

Hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Caerdydd Creadigol a llongyfarch y tîm ar eu cyflawniadau hyd yma. Mae'r sector creadigol ar flaen y gad yn Strategaeth Economaidd ein dinas, ac yn un o'r nifer o resymau pam roedd Cyngor Caerdydd yn un o sylfaenwyr y rhwydwaith hwn. Heb amheuaeth, mae'r digwyddiadau, yr ymchwil, y prosiectau a'r gwaith datblygu busnes a wnaed gan Caerdydd Creadigol wedi cyfrannu at ymddangosiad ein dinas fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer y diwydiannau creadigol. Mae'r sector wedi tyfu o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae bellach yn cael ei ddathlu'n rhyngwladol am yr hyn rydym yn ei wneud yma. Rydym yn gartref i rai o gynyrchiadau teledu amser brig mwyaf a gorau'r DU, yn allforio ledled y byd ac yn gweithio gyda rhai o'r enwau mwyaf yn y diwydiant.

Mae Caerdydd Creadigol wedi chwarae rhan sylweddol wrth sicrhau buddsoddiad i'r sector, gan gynnwys arwain ar brosiect ymchwil a datblygu arloesedd sgrin Clwstwr gyda dwy brifysgol arall Caerdydd. Mae digwyddiadau diwydiant Caerdydd Creadigol yn rhannu'r syniadau a thechnoleg ddiweddaraf yn y sector, gan ddod â phobl ynghyd i rannu arferion gorau mewn busnes creadigol. Mae hyn hefyd yn hanfodol i'r ffordd rydym yn meithrin arloesedd yn y ddinas. Rydym yn gweld gwaith Caerdydd Creadigol yn hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i gynnal a datblygu talent – o bob rhan o'r ddinas a'r rhanbarth – yn hynod bwysig ac yn hanfodol i dwf yn y dyfodol.

Mae Caerdydd wedi trawsnewid ei economi yn llwyddiannus yn ystod y degawdau diwethaf o ddiwydiant i wasanaethau, ac wedi hynny economi wybodaeth lewyrchus, gan sefydlu canolfannau llwyddiannus ar gyfer sectorau ariannol, technoleg a chreadigol. Ymhlith yr heriau niferus mae'n rhaid i ni eu hwynebu nawr, blaenoriaeth i'r ddinas yw datblygu'r sectorau hyn i ddarparu mwy a gwell swyddi i bobl Caerdydd a'r ddinas-ranbarth ehangach. Ein huchelgais yw sefydlu Caerdydd ymhellach fel arweinydd byd-eang ar gyfer y diwydiannau creadigol a rhoi Caerdydd wrth wraidd sector creadigol a digidol y DU. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn Caerdydd Creadigol a'r sector ehangach yng Nghaerdydd a'r rhanbarth i helpu i gyflawni hyn.

Graeme Farrow headshotGraeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig, Canolfan Mileniwm Cymru:

Rhaid llongyfarch Caerdydd Creadigol am y rôl maen nhw wedi'i chwarae fel goleudy ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru ac i Gymru yn y byd. Maent wedi bod yn ffagl i'n talent newydd ac wedi taflu goleuni ar y datblygiadau arloesol a'r syniadau sy'n cael eu datblygu yng Nghymru.

Mae'r tîm wedi defnyddio ei egni, talent a natur benderfynol gadarn sylweddol i ddarparu gobaith mawr ei angen a chefnogaeth ymarferol i greadigrwydd yn ein dinas. Rydym yn llwyr gefnogi'r dull fod rhaid i'n datblygiad diwylliannol a chreadigol yn y dyfodol gael ei yrru gan fentrau llawr gwlad, a thrwy harneisio sgiliau, syniadau a grym creadigrwydd ein pobl ifanc. Pan fydd creadigrwydd unigolion yn cael ei gydnabod a'i feithrin, gall yr effaith newid bywyd. Mae Caerdydd Creadigol hefyd wedi dangos, trwy ddod â phobl ynghyd: gall hyn gael effaith sylweddol ar raddfa.

Yn bwysig, maent hefyd wedi denu cyllid a fydd yn caniatáu i'n talent gyflawni ei photensial. Cyllid yw'r galluogwr hanfodol a fydd yn caniatáu i syniadau dyfu i fod yn llwyddiant economaidd a chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y mentrau mae Caerdydd Creadigol wedi'u cynnal yn parhau i dyfu ac yn talu ar eu canfed am flynyddoedd i ddod.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn rhannu’r farn y bydd y diwydiannau creadigol yn beiriant twf mawr i Gymru a dyna pam rydym wedi bod yn falch o fod yn aelod sefydlu. Mae Caerdydd Creadigol wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid a'r canlyniad yw y gallwn nawr weld effaith y rhwydwaith yn cydio yng Nghaerdydd. O ystyried yr hyn a gyflawnwyd mewn pum mlynedd, edrychwn ymlaen at fod yn rhan o'r potensial cyffrous a fydd yn cael ei ryddhau yn y pum mlynedd nesaf. Llongyfarchiadau i Sara Pepper a'r tîm.

Rhodri Talfan Davies headshotRhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr Cenhedloedd y BBC a Chyfarwyddwr BBC Cymru Wales

Ni allai Caerdydd Creadigol fod wedi nodi ei ben-blwydd yn bump oed ar adeg anoddach – i'r diwydiant creadigol ac i'r wlad gyfan. Ond ni allai'r rhwydweithiau a'r cysylltiadau maen nhw wedi'u creu yn ystod y pum mlynedd hynny o gydweithio ac arloesi fod yn fwy angenrheidiol wrth i ni geisio cefnogi'r diwydiant gwych hwn yn sgil pandemig byd-eang. Diolch i Caerdydd Creadigol, mae rhwydwaith cadarn ar waith i hybu a harneisio'r ysbryd creadigol a helpu i wefru'r sector yn ôl i'w nerth llawn.

Daeth BBC Cymru Wales yn un o sylfaenwyr Creadigol Caerdydd ar adeg o newid mawr i ni fel darlledwr. Bum mlynedd yn ddiweddarach, gwireddwyd y weledigaeth o ganolbwynt darlledu yn Sgwâr Canolog. Mae'n fwy na hynny wrth gwrs – mae hefyd yn gartref i'r sector creadigol sy'n cynnig sylfaen i gwmnïau teledu annibynnol lleol, yn ogystal â bod yn ganolfan i'r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol newydd sbon yng Nghymru. A hyn gyda diolch i'r rhwydweithiau creadigol gwych sydd gennym yma yn y ddinas a ledled Cymru, sydd wedi gweithio gyda ni ar hyd y daith.

Felly dyma edrych ymlaen at bum mlynedd nesaf Caerdydd Creadigol – llongyfarchiadau a phob llwyddiant i'r dyfodol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event