Ein Caerdydd creadigol: Adrodd y stori

Profile picture for user Sara Pepper

Postiwyd gan: Sara Pepper

Dyddiad: 5 May 2020

Gweithio gyda’n cymuned ar hanes sector creadigol Caerdydd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol

Sefydlwyd Caerdydd Creadigol bedair blynedd a hanner yn ôl fel rhwydwaith ar draws y ddinas gyfan i helpu i dyfu a chysylltu gweithwyr a sefydliadau creadigol. Y weledigaeth ehangach oedd galluogi Caerdydd i fod y lle mwyaf creadigol y gallai fod.

O’r eiliad y cafodd ei lansio, tyfodd y rhwydwaith yn gyflym gan ragori ar ddisgwyliadau o ran nifer yr aelodau a’r lefelau ymgysylltu. Mae twf blynyddol y rhwydwaith yn dangos pwysigrwydd cysylltu a hwyluso’r gymuned greadigol yn y ddinas.

Dan arweiniad tîm yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda chymorth gan bartneriaid sefydlu BBC Cymru Wales, Cyngor Dinas Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru, mae creu ar y cyd yn rhan o’n DNA. Oherwydd ein dull, a gyflwynwyd yn ein hymgyrch 52 Things a gynhyrchwyd ar y cyd yn y flwyddyn gyntaf, mae Caerdydd Creadigol bob amser yn dyheu am fod yn rhywbeth a wnaed gyda’r gymuned greadigol yn y ddinas ac ar ei chyfer hi.

Yn 2020, mae gan Gaerdydd Creadigol aelodau drwy’r ddinas i gyd (cyfanswm o 3484) sy’n rhan o nifer o sectorau creadigol – o bensaernïaeth i animeiddiad, crochenwaith i ôl-gynhyrchu. Mireiniwyd ein pwyslais dros y pedair blynedd, ond mae gweithgareddau allweddol yn parhau’r un fath i raddau helaeth: gan gynnwys tynnu sylw at gyfleoedd am swyddi, casglu, asesu a rhannu data, helpu i greu cysylltiadau rhwng pobl greadigol, annog prosiectau cydweithredol drwy gyfres o ddigwyddiadau a chefnogi arloesedd, twf a datblygiad yn y sector creadigol.

Mae Caerdydd Creadigol bob amser wedi canolbwyntio ar adrodd hanes creadigol Caerdydd: y bobl, y lleoedd a’r partneriaethau. Er bod Caerdydd yn gyfarwydd â chynnal digwyddiadau mawr (yn ddiwydiannol ac ym maes chwaraeon) a hyrwyddo ei hun ar lwyfan y byd, mae cymaint i’w wneud o hyd i ddatblygu dealltwriaeth well o’r gweithgareddau ac asedau creadigol sydd ganddi, a’r potensial sydd yn y gymuned hon – i gefnogi twf economaidd yn ogystal ag addysg, iechyd a lles, creu lleoedd ac ymdeimlad cyffredinol o hunaniaeth a balchder.

Cyhoeddwyd llawer gan sefydliadau yn y DU i ddylanwadu ar bolisi diwylliannol a gweithgareddau cynllunio economaidd o ran y diwydiannau diwylliannol a chreadigol. Yng Nghymru, mae llunwyr polisïau ar bob lefel yn cydnabod cryfder a photensial y sector – fel conglfaen bywyd a hunaniaeth yng Nghymru ac i annog twf economaidd.

Cynhaliwyd Confensiwn y Dinasoedd Creadigol gan Gyngor Caerdydd yn 2019, ac mae hefyd wedi sefydlu partneriaeth â Chaerdydd Creadigol a rhaglen arloesedd sgrîn Clwstwr dros y blynyddoedd diwethaf; mae’r ddinas-ranbarth wedi’i wneud yn un o chwe phrif sector targed y Fargen Ddinesig [1]; ac mae Llywodraeth Cymru wedi’i nodi fel un o'i thri sector blaenoriaeth ar gyfer twf rhyngwladol, gan lansio Cymru Creadigol[2] yn 2020.

At hynny, mae Caerdydd wedi cael ei chyfran deg o sylw mewn colofnau ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn adrodd am lwyddiannau a heriau allweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn enwedig yn adrodd ar dwf y sector teledu a ffilm yng Nghymru, pencadlys newydd BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog, dathliadau Roald Dahl 100, ymgyrch amddiffyn Stryd Womanby a dymchwel Gwdihw i enwi rhai yn unig.

 Mae’r adrodd hwn yn bwysig wrth ddathlu llwyddiant, gan dynnu sylw at heriau a hyrwyddo cyfleoedd megis datblygiad a thwf y sector yn ogystal â denu doniau a busnesau newydd i’r ddinas i sicrhau cyfraniad economaidd, diwylliannol a chymdeithasol y sector. 

Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod manylion y sector yn cael eu deall a'u rhannu mor eang â phosibl, mae gwaith sylweddol i'w wneud o ran creu lleoedd – gan rannu straeon ein cymuned greadigol yn y rhan hon o'r byd. Mae gan y gwaith hwn botensial i ddod â’r gymuned greadigol at ei gilydd i ailddychmygu, i ailddyfeisio ac i rannu’r bobl, y lleoedd a’r partneriaethau sydd wrth wraidd y gymuned hon – a hynny ar y cyd.

Gall creu lleoedd o’r math hwn, wrth ei wneud yn dda, gael effaith mewn nifer o ffyrdd arwyddocaol wrth gyfrannu at y gwaith o adfywio cymdogaethau a chymunedau yn ehangach, gan fagu hyder o’r tu mewn a hunaniaeth ac enw da y tu allan. Mae hyn yn mynd i fod yn hynod bwysig wrth i ni wynebu COVID-19 a’i effeithiau cynyddol.

Mae rhai enghreifftiau ardderchog o’r math hwn o weithgareddau creu lle yn cynnwys Our Fav Places yn Sheffield, Playable City ym Mryste, Amp’s Network yn Dundee, ailddatblygiad Titanic Quarter yn Belfast ac ymhellach i ffwrdd Renew Newcastle yn Newcastle, Awstralia a Pā Rongorongo yn Aukland, Seland Newydd.

Mae’r rhain yn dangos yr hyn a ellir ei wneud mewn partneriaethau ehangach, gan roi canllaw i bobl leol ac ymwelwyr i ddeall ac ymgysylltu â lleoedd drwy straeon eu hymarferwyr a’u sefydliadau creadigol sydd mor allweddol i’w hadeiladwaith a’u dyfodol.

Yng Nghaerdydd Creadigol, rydym yn sicr mai cydweithio a manteisio ar ein cryfderau cyfunol fel dinas yw'r ffordd ymlaen. Yr hyn sy’n fy nghymell bob dydd yw clywed straeon gweithwyr a sefydliadau unigol yn y sector creadigol sy’n gwneud, yn creu ac yn cydweithio â phobl yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Ond sut mae dinas yn adrodd straeon amdani hi ei hun? Beth a sut mae'r naratif hwn o le yn datblygu? Beth ydym ni eisiau i bobl feddwl pan ein bod ni'n dweud wrthynt ein bod ni o Gaerdydd? Pa straeon y dylem eu rhannu am y ddinas?

Rydyn ni'n ymrwymo i daflu goleuni ar ehangder yr ymarfer creadigol sy’n digwydd drwy Gaerdydd, gan ddathlu’r rheini sy’n cyflawni gwaith sy’n berthnasol yn lleol ac yn fyd-eang. Rydym eisiau gweithio gydag eraill i gynnig ffordd i adrodd ein straeon, er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed oherwydd rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni ei roi yn nwylo pobl greadigol er mwyn iddynt ddangos eu Caerdydd creadigol i ni.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn lansio’r comisiwn ar gyfer Ein Caerdydd Creadigol heddiw. I ddetholiad o ymarferwyr creadigol sy'n gweithio yn y ddinas ar draws y sectorau creadigol gwahanol i gynhyrchu un darn o waith yr un sy'n esbonio, yn amlygu ac yn mynegi 'ein Caerdydd creadigol' yn 2020, yn eu llais eu hunain. Hoffem i'r gwaith dynnu sylw at yr hyn sy'n digwydd eisoes ac sy'n adnabyddus yn ein dinas greadigol, yr hyn sy'n anweledig a/neu anhysbys a'r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol.

Yn ystod fy mhum mlynedd fel Cyfarwyddwr Creadigol Caerdydd, bûm yn ffodus i gael profiad uniongyrchol o gryfder creadigol Caerdydd ac rwyf ar bigau’r drain eisiau rhannu'r hyn y gwn y bydd yn dapestri unigryw, chwilfrydig, bywiog a deinamig o waith gyda'r ddinas a’r byd.

[1] Gweler https://www.cardiffcapitalregion.wales/news-post/cardiff-capital-region-industrial-and-economic-growth-plan-is-showcased-at-largest-property-exhibition-in-the-world/

[2] Cyhoeddodd Cymru Greadigol niferoedd allweddol ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn 2020 (gweler https://www.wales.com/creative-wales). Mae’r niferoedd a gyflwynir gan Cymru Greadigol yn wahanol i'r niferoedd a gyflwynir yma gan fod gwahanol ffynonellau data a phroses gysoni wahanol wedi'u defnyddio. Mae Cymru Greadigol yn nodi bod, “Y diwydiannau creadigol yn cynrychioli un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, gyda throsiant blynyddol o fwy na £2.2 biliwn, ac mae’n cyflogi dros 56,000 o bobl – 40% yn fwy na 10 mlynedd yn ôl.”