Dylunydd

Cyflog
£30,610 - £32,222
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
17.07.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 3 July 2025

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Teitl y Rôl:Dylunydd

Cyflog: £30,610 - £32,222 y flwyddyn

Oriau Gwaith:35 awr yr wythnos

Dyddiad Cau:17 Gorffennaf 2025

Dyddiad Cyfweld:Wythnos yn cychwyn 21 Gorffennaf 2025


Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.


Amdanom ni/Ein Hadran:

Mae'r tîm Marchnata yn gyfrifol am ddenu a chynnal nifer gynaliadwy o gynulleidfaoedd ac ymwelwyr achlysurol ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau a chwsmeriaid ynghyd â datblygu ein henw da yn y parth cyhoeddus. I wneud hyn, rydym yn cynhyrchu deunydd marchnata i gyfleu ein cynigion cynhyrchu incwm yn ogystal â'n gweledigaeth elusennol ac artistig. Mae gennym hefyd ymrwymiad i sicrhau dull dychmygus o werthfawrogi a datblygu diwylliant a hunaniaeth Cymru ym mhob agwedd ar ein gweithgareddau.


Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:

Bydd y Dylunydd yn aelod o'r tîm marchnata, gan weithio gyda nifer o randdeiliaid ar draws Canolfan Mileniwm Cymru. Byddant yn atebol i’r Uwch Ysgrifennwr Copi Dwyieithog ac yn gweithio'n agos gyda'n Dylunydd Preswyl. Bydd y Dylunydd yn gyfrifol am arwain ar greu a chyflenwi gwaith celf ac asedau gwreiddiol i gefnogi Canolfan Mileniwm Cymru ar draws pob adran, gan gynnwys ein hardaloedd blaen tŷ a'n siop. Byddant yn sicrhau bod pob ased ac ymgyrch yn adlewyrchu gweledigaeth a chanllawiau ein brand, eu bod yn gyson ar draws llwyfannau ac yn cael eu cyflwyno ar amser wrth fynd ar drywydd amcanion ariannol, nifer yr ymwelwyr ac enw da’r Ganolfan.


Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

Gofynion Allweddol

Fel sefydliad sy'n rhoi pwyslais mawr ar ddigidol, rydym yn chwilio am ddylunydd sydd â sylw manwl i fanylion, yn meddu ar chwaeth arbennig mewn dylunio gweledol cyfoes a sawl blwyddyn o brofiad o greu asedau, gan gynnwys animeiddio a fideo, ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ar y sgrin. Bydd gennych hefyd wybodaeth arbenigol am Adobe Creative Suite ac InDesign a byddwch yn gyfforddus wrth archebu print a chynyrchiadau gan amrywiaeth o gyflenwyr yn ogystal â lanlwytho ac amserlenni cynnwys i'n system arwyddion sgrin ddigidol.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.

     

    Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

    Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

    Cyfeiriadur rhwydwaith

    Ymunwch â'r rhwydwaith

    Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.