Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Rheolwr Dyletswydd Achlyrusol
Cyflog: £13 yr awr
Dyddiad Cau: 16/05/2025
Dyddiad Cyfweliad:
I wneud cais am y rôl hon ac i ddarganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ewch i: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae ein Rheolwyr Dyletswydd yn cyntaf ac yn bennaf arweinwyr. Byddwch yn cefnogi ein Rheolwyr Gweithrediadau Lleoliad i arwain ein tîm o 300 o bobl yn weithredol i greu profiad cofiadwy i bawb.
Rydym yn tanio'r dychymyg drwy ein profiadau, gan greu atgofion dilys ac arbennig trwy fynd y filltir ychwanegol.
Fel Rheolwr ar Ddyletswydd byddwch yn cadw'r tîm yn llawn cymhelliant ac yn gyrru rhagoriaeth ar shifft. Eich nod yw tîm Gwybodus, sy'n hyrwyddo gweledigaeth y Ganolfan.
Gofynion Allweddol:
• Byddwch yn gweithio gyda'n Rheolwyr Gweithrediadau Lleoliad i arwain y tîm o ddydd i ddydd.
• Creu dogfennau briffio clir a chryno i sicrhau bod y tîm cyfan yn ymwybodol o weithgaredd yn eich ardal ac yn darparu sesiynau briffio gweithredol.
• Byddwch y pwynt cyswllt cyntaf i ddatrys problemau cwsmeriaid neu artistiaid sy'n codi yn eich lleoliad a gweithio i'w datrys ar sifft.
• Cefnogi'r Rheolwyr Gweithrediadau Lleoliad i greu a darparu hyfforddiant i gadw'r tîm ar frig eu gêm.
Mae eich rôl yn amodol ar siec DBS
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- Cyflogwr cyflog byw go iawn
- Hawl i Bensiwn Now
- Oriau gwaith hyblyg – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweddu i’ch bywyd personol a'ch ymrwymiadau
- Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer: lles ac iechyd meddwl, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
- Mynediad am ddim i ddysgu Cymraeg ar-lein
- Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
- Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis Canolfan Mileniwm Cymru
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Rydym yn croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os byddwch yn gwneud cais am rôl yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.