Dyfarnu OBE i Gyfarwyddwr Caerdydd Creadigol Sara Pepper am wasanaethau i'r economi greadigol

Cydnabod Sara Pepper yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2021.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 22 January 2021

Mae Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol, Sara Pepper, wedi ei chydnabod yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines am ei gwasanaethau i'r economi greadigol.

Dechreuodd Sara ei swydd yn Gyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014, yn dilyn swyddi cynhyrchu creadigol yng Nghanolfan Southbank, y BBC, Canolfan Mileniwm Cymru a Gemau Olympaidd Sydney 2000. Ym mis Hydref 2015, yn dilyn ymgynghori helaeth gyda'r gymuned greadigol, lansiodd rwydwaith Caerdydd Creadigol sydd bellach yn cynnwys yn agos at 4000 o aelodau. Yn 2018 daeth hefyd yn Brif Swyddog Gweithrediadau rhaglen arloesi'r sector sgrin yn Ne Cymru, Clwstwr.

Mae gan Sara angerdd dros hyrwyddo a datblygu talentau a syniadau newydd a meithrin partneriaethau sy'n galluogi unigolion a sefydliadau i wireddu eu potensial creadigol a masnachol yn llawn.

Sara Pepper hosting Creative Cardiff Show and Tell at Wales Millennium Centre

Meddai Sara: “Mae’n anrhydedd derbyn OBE am wasanaethau i’r economi greadigol. Mae'n gydnabyddiaeth gadarnhaol iawn o'r rôl hanfodol y mae'r economi greadigol yn ei chwarae yng Nghymru a ledled y DU, ar hyn o bryd ac wrth symud ymlaen.

“Mae’n tystio i sector creadigol sy’n esblygu’n barhaus yn y rhanbarth ac i sgiliau, arbenigedd ac ymrwymiad cydweithwyr yr wyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweithio gyda nhw.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r gwaith hwn i ymhelaethu, galluogi ac eiriol dros yr economi greadigol a'r rhai sydd, fel fi, yn ymdrechu i gael sector creadigol a diwylliannol arloesol yng Nghymru. Gyda'n gilydd rydyn ni wedi dod â'r gwaith yn fyw ac rwy'n ddiolchgar am eu cefnogaeth, eu gweledigaeth a'u brwdfrydedd parhaus.

"Rwyf i wastad wedi credu yng ngrym creadigrwydd ac mae hyrwyddo'r economi greadigol, a'r cyfan a ddaw yn ei sgil, yn y rhan hon o'r byd yn un o freintiau mawr fy mywyd.”

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, cyd-sylfaenydd Caerdydd Creadigol: “Byth ers ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, mae Sara wedi bod yn bwerdy o ynni a symbyliad. Hi yw'r math gorau o ysgogwr, yn gwneud i bethau ddigwydd, gan ddod â phobl eraill gyda hi, a'r cyfan gyda charedigrwydd a chydymdeimlad bob amser. Mae wedi bod yn bleser llwyr cael gweithio gyda hi, ac rwyf i wrth fy modd yn ei gweld yn cael cydnabyddiaeth am ei chyfraniad gwych."

Gallwch ddarllen beth mae Sara yn ei feddwl am bwysigrwydd adrodd stori Caerdydd fel prifddinas greadigol yma.

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event