Mae Ystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol yn gyfres o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio i helpu bobl creadigol i archwilio themâu penodol mewn gweithdai grŵp bach dan arweiniad hwyluswyr profiadol. Wedi’i gyllido’n rhannol gan Caerdydd Creadigol, dim ond £5 yw pris pob digwyddiad Ystafell Ddosbarth.
Mae’r Ystafell Ddosbarth nesaf yn ddigwyddiad Nadoligaidd, gan roi’r cyfle i chi fynd yn greadigol trwy greu eich Pwdin Nadolig eich hun gan ddefnyddio crochet!
Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gyflwyno gan Cosy Throws. Wedi’i sefydlu gan Hattie Jenkins, mae Cosy Throws bellach yn enwog am ei gwaith hyfryd wedi’u gwneud â llaw, citiau crochet, a gweithdai hwyliog ac ymgysylltiol. Mae angerdd Hattie dros wneud crochet yn hygyrch ac yn hwyl wedi ysbrydoli cyfranogwyr o bob lefel i ddechrau eu taith greadigol gyda chrochet.
Yn ystod y gweithdy Pwdin Nadolig, byddwch yn dysgu’r hanfodion crochet wrth greu eich addurn Nadoligaidd eich hun, sy’n berffaith ar gyfer rhoi ar eich coeden neu fel anrheg arbennig i rywun. Bydd Hattie yn eich tywys trwy’r broses gam wrth gam, gan wneud y gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr, yn ogystal a'r rhai mwy profiadol.
Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu, felly gallwch ddod yn barod i ymlacio, rhwydweithio a dysgu wrth fwynhau ychydig o hwyl Nadoligaidd!
Rhagor o wybodaeth am Cosy Throws.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly trefnwch yn gynnar i gadw eich lle.
Ymunwch â ni ar gyfer y gweithdy Nadoligaidd hwn a gadewch gyda’ch Pwdin Nadolig wedi’i wneud â llaw eich hun!
Sicrhewch eich lle yn y gweithdy Cosy Throws yma!