Cynhyrchydd, aml-offerynnwr a pherfformiwr clyweledol; Mae Kayla Painter wedi ennill adnabyddiaeth ledled y DU am ei harchwiliadau sonig dwfn, ei chyfansoddiadau arallfydol ynghyd â’i phalet sain unigryw a’i harddull cynhyrchu. Yn hanu’n wreiddiol o Gasnewydd ac yn frwd dros wella mynediad at Gynhyrchu Cerddoriaeth a Chelfyddydau Trochi.
Yn 2024 cafwyd ei rhyddhad mwyaf hyd yma, gyda chefnogaeth PRS Foundation (gwobr Women Make Music) ysgrifennwyd ei halbwm cyntaf ‘Fractures’, rhyddhawyd Fractures yn unol â lansiad llong ofod o’r Kennedy Space Centre. Mae Fractures yn archwilio beth allai taith i Europa fod, ac yn treiddio i gefnforoedd dwfn y lleuad wedi rhewi i chwilio am arwyddion bywyd.
Ar frig rhestr ‘Albwm Electronig Gorau 2024’ ar Bandcamp, a gyda chylchdroadau rheolaidd ar 6Music, (ac ar ôl galw ei genre ei hun o gerddoriaeth yn ‘Ambient Owl Core') mae hi’n prysur gael ei chydnabod fel arloeswr ar y sin electronig arbrofol. Daeth Kayla a’i phrosiect Ambient Owl Core i bennod amlwg yn ‘Ears to the Ground’ gan Ben Murphy, a chafodd ei chyfweld wedyn gan Hannah Peel ar 6Music yn trafod ei thechnegau recordio a tharddiad Ambient Owl Core.
Yn y dosbarth meistr hwn gallwch ddisgwyl cael mewnwelediad i dechnegau cynhyrchu uwch, gan ganolbwyntio ar sut i chwarae cerddoriaeth electronig yn fyw gan ddefnyddio Ableton.
Bydd yn manylu ar sut y gellir trosi trac o’r stiwdio i sioe fyw, a pha dechnegau y gellir eu defnyddio i wneud traciau’n berfformiadol, ac archwilio fersiynau byw, gan greu’n fyrfyfyr a defnyddio effeithiau byw.
\ Rydym yn argymell lawrlwytho'r fersiwn am ddim o Ableton Lite os nad ydych chi'n gyfarwydd ag ef neu'n gweithio ar DAW gwahanol.
Os ydych chi'n ddechreuwr llwyr, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n mynychu un o Weithdai 'Cyflwyniad Meddal i Gynhyrchu Cerddoriaeth' FACC ymlaen llaw.
Nid oes angen unrhyw offer ar gyfer cyfranogwyr gan mai arddull cyflwyno fydd hwn yn hytrach na gweithdy.