Mae Cwmni Theatr Pigtown yn bwriadu recriwtio datblygwr/artist digidol arweiniol rhagorol a blaengar ar gyfer ei brosiect Realiti Rhithwir arloesol BeConwy. Mae hwn yn gydweithrediad datblygu rhwng Pigtown, CADW, Celfyddydau Anabledd Cymru a ShakesVR gyda chyllid grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd BeConwy yn archwilio dull chwyldroadol o adrodd stori drwy Engage, sef platfform Realiti Rhithwir ar gyfer Addysg Drochol.
Y lle cyntaf y byddwn yn ei archwilio yw Castell Conwy sy’n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd Unesco.
Rydym yn chwilio am unigolyn unigryw a all ysbrydoli a sbarduno darn o waith Realiti Rhithwir trochol a arweinir gan y gymuned, a rhywun a all dyfu gyda ni ar y cyd â’n partneriaid yn y dyfodol.
Mae’r sgiliau hanfodol ar gyfer y rôl hon yn cynnwys y canlynol:
- Llawer o brofiad o weithio gydag Unity, neu Unreal drwy drosglwyddo sgiliau. Dealltwriaeth o’r gofynion a’r cyfyngiadau technegol sy’n gysylltiedig â chreu gwaith celf a fydd yn gweithio mewn peiriannau gemau.
- Sgiliau modelu 3D, a’r gallu i weithio yn .fbx a’i allforio.
- Dealltwriaeth o waith optimeiddio asedau celf ar gyfer gemau a dealltwriaeth o gyfrif polygonau, nifer y gwrthrychau a gaiff eu galw i sgrin, atlasau gweadau, retopoleg ac ati.
- Ymwybyddiaeth o fanylebau perfformiad ein platfform targed, e.e. rydym am i bobl allu cael gafael ar y cynnwys hwn ar bob platfform, gan gynnwys ffonau Android. Felly, bydd yn rhaid eich bod yn gallu creu gwaith celf sy’n briodol ar gyfer y galedwedd honno.
- Y gallu i rannu sgiliau a mentora cydweithiwr er mwyn cael cymorth i ddatblygu’r prosiect.
- Profiad o ddefnyddio Oculus a Vive.
Mae ein gweithlu yn cynnwys cynrychiolaeth o bob rhan o gymdeithas, ac rydym yn croesawu ymgeiswyr nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd ym maes y celfyddydau. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn artistiaid sy’n Gymry neu sy’n byw yng Nghymru.
Telerau
Ffi am y gwaith £5400
Mae hynny’n gyfwerth â 18 o ddiwrnodau rhwng 14 Medi a 30 Tachwedd 2021
Sut mae ymgeisio
Anfonwch eich CV cyfredol, llythyr eglurhaol a dolenni cyswllt â gwaith perthnasol drwy ebost i hello@shakesvr.com
Yr amser a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 30 Awst 2021.
Yna, bydd yr ymgeiswyr a gaiff eu cynnwys ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd o 6 Medi ymlaen i greu darn byr yn Engage, at ddibenion arddangos, yn rhan o’r broses gyfweld. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn Engage ar 13 Medi.