Dangos a Dweud Gwerin yn yr Eisteddfod

06/08/2018 - 18:00
Tŷ Gwerin
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Bydd Caerdydd Creadigol yn dod â’i fformat Dangos a Dweud i’r Eisteddfod. Bydd yn croesawu siaradwyr o bob rhan o ddiwydiannau creadigol Caerdydd i rannu eu prosiectau cyfredol a’u dyheadau.

A bydd Dr Keith Chapin, o’r Ysgol Cerddoriaeth, yn cadeirio digwyddiad fydd yn cynnwys y cerddorion Ani Glass a Marged Rhys yn ogystal â’r ddawnswraig Eddie Ladd (dydd Llun, 6 Awst, Pabell Werin, 17:00) 

Dr Keith Chapin 

Mae Dr Keith Chapin yn ddarlithydd hanes cerddoriaeth yn Yr Ysgol Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ble mae hefyd yn Gyfarwyddwr Dysgu. Magwyd yn Alaska, ble roedd ei brofiadau cyntaf o gerddoriaeth yn ymwneud â thraddodiadau gwerin a chlasurol (y ffidl a'r fiola), ac mae'n parhau i berfformio'r ffidl. Cyn symud i Gymru yn 2011, wnaeth o ddysgu yn yr Unol Daleithiau ac yn Seland Newydd. Mae o wedi dysgu Cymraeg a gyda dau blentyn yn addysg cyfrwng Cymraeg.

Ani Glass

Mae Ani Saunders yn artist adnabyddus - yn ddylunydd, ffotografydd ac yn gantores bop electronig sy’n perfformio o dan yr enw Ani Glass.  Ei gwaith diweddaraf, nodedig, yw’r EP Ffrwydrad Tawel, a ddisgrifwyd fel “cerddoriaeth ar gyfer diwedd y byd, a dechrau un newydd”.  Mae’n gyn aelod o’r grwpiau pop Genie Queen a’r Pipettes ac wedi cydweithio gyda’r artist enwog Ivor Davies.  Yn wreiddiol o ardal Glan-yr-Afon yng Nghaerdydd,  bellach mae’n byw yn y gymuned drws nesaf, Grangetown, sydd yn ffinio ar Drebiwt a Bae Caerdydd.  Magwyd Ani yn y Gernyweg a’r Gymraeg, ac mae ei thad a hithau yn aelodau o Orsedh Kernow.  Graddiodd Ani yn wreiddiol o Brifysgol John Moores yn Lerpwl ym maes ffasiwn a dylunio a’r flwyddyn hon dychwelodd i addysg uwch ac mae wrthi ar hyn o bryd yn gorffen ei gradd Meistr yn Adran Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae’n ymddiddori’n fawr mewn materion cyfoes, diwylliannol a ieithyddol. 

Marged Rhys

Mae Marged Rhys, o Gaernarfon, yn aelod o’r band Plu sydd wedi bod yn perfformio caneuon gwerin amgen gwreiddiol ers 6 mlynedd. Astudiodd Marged radd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste gan ganolbwyntio ar gerddoleg a’n benodol ar y dylanwadau allanol sy’n effeithio ar gerddoriaeth gynhenid. Ers hyn, mae Marged wedi gweithio yn y maes marchnata a chyfathrebu, nawr gyda’r Mentrau Iaith. Ond parha i fwynhau perfformio a chreu gyda Plu o bryd i’w gilydd.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event