Dywedwch fwy wrthym am eich tîm
Mae ein tîm bach yn angerddol am Gaerdydd a’i chreadigrwydd.
Mae gan bob un ohonom swyddi sy'n ein galluogi i fynegi ein creadigrwydd, boed hynny trwy ddylunio, ysgrifennu neu farchnata. Trwy Radar, rydym yn gallu cymryd ein lefel mynegiant creadigol ymhellach a churadu cynnwys yn benodol ar gyfer ein diddordebau. Rydym yn gobeithio y bydd pobl ifanc a phobl greadigol yn ein dinas yn barod i dderbyn hyn.
Beth yw Radar Mag?
Mae Radar yn gylchgrawn print annibynnol sy'n canolbwyntio'n benodol ar bopeth sy'n digwydd yng Nghaerdydd megis cerddoriaeth, celf, ffordd o fyw a diwylliant.
Cefnogir ein cylchgrawn print gan blatfform ar-lein sy'n cyflwyno cynnwys tebyg a'n cyfres o ddigwyddiadau sy'n arddangos y gorau o gerddoriaeth fyw newydd o'n dinas.
Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni?
Rydym yn adrodd straeon o gefndir creadigol a cherddoriaeth Caerdydd ac eleni rydym wedi ymestyn hynny ymhellach, gan gynnwys gweithiau o bob rhan o Dde Cymru.
Rydym yn gobeithio tyfu platfform sy'n bodoli ar draws pob sianel cyfryngol, print a digidol, yn ogystal ag mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb, gan roi cyfle i bobl greadigol a cherddorion talentog rannu eu crefft a'u profiad. Trwy gydol ein cynlluniau ar gyfer 2024 a thu hwnt, rydym yn edrych ar y gwahanol fathau o gyfryngau y gallwn eu defnyddio i adrodd straeon o'r fath ac ehangu pobl greadigol a cherddorion Cymru ymhellach.
Byddem wrth ein bodd i Radar chwarae rhan wrth barhau i feithrin hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethocach ar gyfer Caerdydd a De Cymru, fel ei fod yn cael ei ystyried fel canolbwynt ar gyfer creadigrwydd a'r celfyddydau gan bobl ledled y wlad.
Dywedwch wrthym am gynlluniau Radar ar gyfer y dyfodol...
Yn 2024, rydym yn bwriadu datblygu ein platfform ar-lein ymhellach trwy gynnwys fideo, darparu darllediadau ar gyfer gwyliau cerddoriaeth mwyaf Cymru a chyhoeddi dau brint llawn dop o Radar. Mae'n mynd i fod yn flwyddyn wych!
Sut mae pobl yn cael rhagor o wybodaeth?
Mae ein tudalen Instagram yn gartref/hafan i bopeth Radar. Dilynwch ni ar @radarmagcardiff i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein holl gynnwys, cylchgronau newydd wrth iddynt gael eu cyhoeddi ac i gael tocynnau i'n digwyddiadau sydd i ddod!