Cynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes

Cyflog
Yn unol â phrofiad
Location
Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o bat
Oriau
Full time
Closing date
28.10.2024
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 10 October 2024

Mae S4C yn chwilio am Gynorthwyydd Hawliau a Materion Busnes fydd yn cydweithio yn agos gyda’r Swyddogion Materion Busnes, y Swyddog Hawliau, tîm Rheoli Cynnwys ac Amserlennu er mwyn sicrhau bod unrhyw gynnwys a ddarlledir wedi ei glirio’n gywir a bod cytundebau hawliau a chliriadau S4C yn cael eu gweinyddu’n gywir yn ogystal â helpu gyda gweinyddiaeth y tîm busnes.

Byddwch yn sicrhau bod yr holl wybodaeth (elfennau hawliau a busnes) am y rhaglenni ar gael i dimoedd ac adrannau eraill S4C drwy gyfathrebu cyffredinol effeithiol a thrwy ddefnyddio system gyfrifiadurol S4C (Cwmwl, system archif a BSM neu unrhyw olynydd).

Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan wrth gyd-weithio â’r timoedd mewnol a chwmnïau allanol.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn effeithiol a throsglwyddo gwybodaeth mewn ffordd ddeallusol a bwrpasol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

Manylion eraill

Lleoliad:                 Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn. 

Cyflog:                    Yn unol â phrofiad

Oriau gwaith:         35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cytundeb:               12 mis gydag estyniad posibl o 6 mis ychwanegol

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.  

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 28 Hydref 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.