Cynhyrchydd Dan Hyfforddiant

Cyflog
£18,081 y flwyddyn pro rata, telir yn fisol
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
15.06.2022
Profile picture for user National Youth Arts Wales

Postiwyd gan: National Youth…

Dyddiad: 18 May 2022

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am recriwtio Cynhyrchydd dan Hyfforddiant llawn-amser i ymuno â thîm CCIC am 14 mis i weithio ar draws ein hensembles a’n prosiectau.

Nid yw profiad gwaith blaenorol yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, ac mae’r rôl wedi ei chreu’n benodol ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd incwm is.

Cynigir y swydd hon fel rhan o ymrwymiad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i annog mwy o bobl ifanc o amrywiol gefndiroedd i ystyried gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Mae’r rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant yn gytundeb tymor penodol am 14 mis ac mae wedi ei anelu’n benodol at berson ifanc sydd dros 20 a dan 25 oed ar adeg eu penodi.

Cymhwysedd

Nid yw profiad gwaith yn hanfodol ar gyfer y swydd hon - mae gennym ddiddordeb yn dy botensial a’r profiadau eraill sydd gennyt allai dy wneud yn addas ar gyfer y rôl hon. Fodd bynnag, mae meini prawf cymhwysedd penodol y bydd rhaid iti eu cyflawni:

  • Mae rhaid iti fod dros 20 ac o dan 25 oed ar adeg dy benodi ac;

  • Os wyt ti’n ymgeisio fel rhywun sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg bydd rhaid iti fod wedi derbyn yr LCA trwy gydol dy gyfnod yn astudio a bod â’r gwaith papur i gadarnhau hyn ac;

  • Os wyt ti’n ymgeisio fel person sydd wedi graddio, mae rhaid iti fod wedi derbyn grant cynhaliaeth llawn oddi wrth Lywodraeth Cymru trwy gydol cyfnod dy radd a bod â’r gwaith papur i gadarnhau hyn ac;

  • Mae rhaid iti fod yn byw yng Nghymru a bod a hawl i weithio yn y DU.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.