Rydyn ni am benodi dau Guradur Cynorthwyol.
Bydd y Curaduron Cynorthwyol yn gweithio gyda thîm Artes Mundi i gynllunio a chyflwyno arddangosfa AM11, sydd ar y gweill ac sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd.
Yn benodol, byddant yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr ym mhob agwedd ar gyflwyno’r rhaglen, yn arbennig cydlynu a pharatoi arddangosfeydd, cynllunio gosodiadau, monitro cyllidebau a chyfrannu at ddigwyddiadau a mentrau rhaglennu cyhoeddus.
Bydd gan un swydd gyfrifoldeb penodol am artistiaid sy’n arddangos ym Mostyn, Llandudno a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth; yr ail ar gyfer artistiaid sy’n arddangos yn Chapter, Caerdydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, a bydd y ddau yn cydlynu â thimau cyfredol o fewn y sefydliadau partner hyn.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i groesawu talent newydd i’n tîm curadurol ymroddedig ac i gefnogi artistiaid, curaduron, awduron, ac eraill sy’n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol yng Nghymru.
Yn adrodd i’r Cyfarwyddwr, Nigel Prince, bydd y Curaduron Cynorthwyol yn chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno AM11 yn llwyddiannus, ar draws Cymru, a’r Gwobrau cysylltiedig.
Manylion am y rôl
Cynigir y swyddi hyn fel rhai Talu wrth Ennill (PAYE).
Cynigir y swyddi hyn fel rhai rhan-amser: sef 2.5 diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd/18.75 awr yr wythnos (0.5 FTE o 37.5 awr safonol) ond gyda dealltwriaeth y bydd angen hyblygrwydd sy’n berthnasol i’r llwyth gwaith a’r cam cyflawni o fewn yr amserlen gyffredinol ar gyfer cyflawni’r gwaith. Gofynnir i ddeiliaid y swydd gyflawni a gwneud gwaith ar rai nosweithiau a phenwythnosau. Rhoddir rhybudd priodol.
Ar gyfer pob swydd:
- Cytundeb cyfnod penodol o flwyddyn
- Y cyflog yw £15,000 ynghyd â chostau teithio
- Oriau gwaith arferol yw 9.30am – 5.00pm
- Mae’r swyddi wedi’u lleoli yng nghanolbarth i ogledd Cymru a de Cymru yn y drefn honno, gyda pheth amser yn ein swyddfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: 16 Mai 2025, 12pm
Cynhelir y cyfweliadau (i’w gadarnhau): 26 Mai 2025 amseroedd i’w cadanhau
Y dyddiad dechrau delfrydol: Cyn gynted â phosib ar ôl y cyfweliad (gellir trafod hyn yn y cyfweliad)