Curadur Rhaglen Berfformio

Cyflog
£28,959
Location
Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE
Oriau
Full time
Closing date
23.02.2023
Profile picture for user Chapter Arts Centre

Postiwyd gan: Chapter Arts Centre

Dyddiad: 25 January 2023

Oriau: 40 awr yr wythnos (TOIL). Bydd rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol. Rydyn ni hefyd yn hapus i ystyried swydd ran amser neu rannu swydd. Nodwch eich dymuniad ar y ffurflen gais.

Lleoliad: bydd disgwyl i chi fod wedi’ch lleoli yn y swyddfa yn Chapter yng Nghaerdydd fel bod modd i chi fod yn bresennol i gefnogi artistiaid a chwmnïau sy’n ymweld wyneb yn wyneb, ac i ymgolli yn nhirwedd y celfyddydau perfformio yng Nghaerdydd. Rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallwch weithio gartref hefyd pan fo’n bosib.

Contract: Parhaol (yn amodol ar gyfnod prawf o 6 mis)

Yn atebol i: Cyfarwyddwr Rhaglen / Cyd-Gyfarwyddwr Dros Dro

Yn gyfrifol am: Neb yn adrodd yn uniongyrchol yn barhaol ond lleoliadau gwaith achlysurol, gwirfoddolwyr a chontractau llawrydd yn ôl yr angen.

Diben y Swydd

Rydyn ni’n gweithio gydag artistiaid i greu rhaglen gymhellol ar draws pob ffurf ar gelfyddyd. Mae artistiaid a chynulleidfaoedd wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni’n rhoi llwyfan i brosiectau mentrus, arbrofol a hygyrch.

Mae ein rhaglen yn hyrwyddo gwaith cyfoes o ansawdd uchel sy’n anturus, yn bryfoclyd ac yn agored i risg, ac rydyn ni’n hyrwyddo gwaith ymarferwyr o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru, yn ogystal â chyflwyno gwaith gan wneuthurwyr theatr o wledydd Prydain a’r byd.

Bydd Curadur y Rhaglen Berfformio yn datblygu rhaglen uchelgeisiol o ddigwyddiadau byw yn ein canolfan gelfyddydau glodwiw. Mae dau ofod theatr ac un gofod perfformio llai a gaiff ei ddefnyddio i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer ymarferwyr creadigol. Mae’r rôl hefyd yn gweithio ochr yn ochr â’n Curadur Celf Weledol i gyflwyno Experimentica, ein gŵyl gelf fyw ddwyflynyddol.

Mae Curadur y Rhaglen Berfformio yn aelod allweddol o dîm y rhaglen, ac o dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Rhaglen, mae’n gweithio gyda churaduron ffurfiau eraill ar gelfyddyd i ddarparu rhaglen gydlynol ar draws y ganolfan sy’n gyson â’n strategaeth artistig gyffredinol.

Ein hymgeisydd Delfrydol

Mae ein hymgeisydd delfrydol yn uchelgeisiol, yn greadigol ac yn ddeinamig, â phrofiad amlwg ym maes rhaglennu mewn rôl debyg mewn theatr, canolfan gelfyddydau, gŵyl, neu fel gweithiwr llawrydd. Byddwch yn unigolyn agored, chwilfrydig ac angerddol am berfformio, ac yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur a chyffrous.

Byddwch yn hynod drefnus a bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, sylw craff at fanylion, sgiliau negodi rhagorol, a’r gallu i ymdrin yn ddoeth â sefyllfaoedd sensitif.

Byddwch yn hyblyg ac yn gallu gweithio’n unol ag amserlenni tynn sy’n newid yn aml, gan aros yn ddigynnwrf a chanolbwyntio dan bwysau. Byddwch yn ffynnu mewn tîm, ond bydd modd i chi hefyd weithio ar eich menter eich hunan pan fydd angen.

Mae ein safle i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Rydyn ni’n croesawu yn benodol bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu sy’n F/fyddar neu’n anabl, gan eu bod wedi’u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.

I geisio am y swydd llenwi ac anfon y Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal i apply@chapter.org.

Dyddiau cau: Dydd Iau 23 Chwefror, hanner dydd. 

Cyfweliadau: Dydd Iau 16 Mawrth

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.