Yn 2025, bydd Artes Mundi yn lansio Artes Mundi 11 (AM11), ein hunfed arddangosfa a gwobr ddwyflynyddol ar ddeg, gan gyflwyno celf gyfoes ryngwladol arloesol yng Nghymru. Fel ail fersiwn y prosiect ar draws Cymru, bydd AM11 yn cael ei gynnal ar draws pedair trefi a dinasoedd gyda phum partner lleoliad. Er mwyn gwireddu’r prosiect uchelgeisiol hwn, ynghyd â’r rhaglen gyffredinol, mae angen codi llawer iawn o arian.
Y Rôl
Byddwch yn adrodd wrth y Curadur Rhaglenni Cyhoeddus. Mae hon yn rôl allweddol sy’n ymwneud â chynulleidfaoedd Artes Mundi ac yn swydd bwysig o ran ei chysylltiad â’r tîm Rhaglenni Cyhoeddus. Bwriad y swydd hon yw cynorthwyo gyda chynllunio ymarferol, datblygu cynnwys a chyflwyno Rhaglen Gyhoeddus AM11 – gan gynnwys sgyrsiau, teithiau tywys a gweithdai mewn modd creadigol. Un o’r prif amcanion yw sicrhau fod cynulleidfaoedd, cyfranogwyr a chyfranwyr yn gallu ymgysylltu’n gyfartal ac yn gyflawn â’n gwaith drwy gynllunio a chyflwyno gweithgareddau sy’n llawn gwybodaeth, yn apelgar ac yn creu profiad cadarnhaol.
Telerau’r Swydd
Bydd swydd y Curadur Cynorthwyol mewn Rhaglenni Cyhoeddus yn swydd llawrydd, gyda ffi o £25,500 sy’n cyfateb i £250 y dydd, 3 diwrnod yr wythnos am 34 wythnos. I’w thalu mewn rhandaliadau misol trwy anfoneb.
Yr oriau gwaith cyffredin yn y swyddfa yw 9:30yb – 5:30yp. Gofynnir i ddeiliad y swydd gyflwyno ac ymgymryd â gwaith ar rai nosweithiau a phenwythnosau. Rhoddir rhybudd priodol.