Y mis hwn, rydyn ni’n canolbwyntio ar ‘newid’, p’un a ydych chi’n newid gyrfaoedd, sectorau, lleoliad neu'n profi newid drwy roi cynnig ar rywbeth newydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych y mis hwn.
Paned i Ysbrydoli: Dod yn llawrydd
I gyd-fynd â’n thema, byddwn yn croesawu’r gweithiwr llawrydd creadigol Krystal Lowe.
Bydd Krystal yn rhannu mewnwelediadau o’i thaith fel artist amlddisgyblaethol llawrydd, gan gynnig safbwyntiau gwerthfawr ar lywio annibyniaeth greadigol, adeiladu gyrfa gynaliadwy, ac integreiddio hunaniaeth bersonol i waith proffesiynol.
Rhannu eich stori
A oes gennych chi brofiad diweddar o newid yn y sector yr hoffech ei rannu â chymuned Caerdydd Creadigol?
Cysylltwch â ni trwy e-bostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk
Darllenwch ein myfyrdodau
Ar ddiwedd pob mis, rydym yn cyhoeddi erthygl i grynhoi sut rydym wedi ymgorffori’r thema fisol yn ein gwaith.
Darllenwch fyfyrdod mis Chwefror ar ‘cydweithio’.
Darllenwch fyfyrdod mis Mawrth ar ‘weithio’n ddwyieithog’.
Ein thema ar gyfer mis Mai fydd - Ariannu a chodi arian