Creu Caerdydd – Gweithdy 1

17/03/2017 - 10:00
Coleg Caerdydd a'r Fro
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

*Wedi gwerthu allan* 

Mae Caerdydd Creadigol yn awyddus i'n dinas fod yn brifddinas o greadigrwydd.

Rydym yn sicr mai cydweithio a manteisio ar ein cryfderau cyfunol fel dinas yw'r ffordd ymlaen. Mae tîm Caerdydd Creadigol yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd a'i staff ar gyfres o heriau ymarferol i wneud hynny. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym eisiau dechrau prosiectau sy'n edrych ar agweddau penodol o'n dinas o safbwynt newydd, creadigol. Yn ogystal â siarad, rydym am ddechrau gwneud pethau.

Bydd gweithdy cyntaf Caerdydd Creadigol yn trin a thrafod yr her gyntaf: Hunaniaeth Caerdydd fel dinas greadigol.

Byddwn yn dechrau yn y bore gyda sesiwn rhannu syniadau. Fel pobl greadigol, beth ydym ni eisiau i bobl feddwl pan ein bod ni'n dweud ein bod ni o Gaerdydd? Pa straeon ddylem eu dweud am y ddinas? Gyda beth y dylai ein dinas fod yn gyfystyr? A oes unrhyw ffeithiau llai adnabyddus y dylem fod yn eu rhannu? Pa enghreifftiau gallwn eu cyfeirio atynt? A oes mythau sydd angen eu profi neu eu chwalu unwaith ac am byth? Os dinas gwerth ei fyw ynddi yw Caerdydd, sut mae ein cymuned ddiwylliannol a chreadigol yn cyfrannu at hyn? 

Rydym hefyd am feddwl am ffyrdd ymarferol o ran sut y gallwn roi'r syniadau hyn ar waith. Mewn grwpiau, byddwn yn nodi beth sydd angen ei wneud yn gyntaf, beth allwch chi ei gyfrannu mewn amserlen ymarferol. Erbyn diwedd y dydd, hoffem gael un neu ddau o syniadau y gall Caerdydd Creadigol eu hwyluso wrth symud ymlaen; gan gynnwys cymuned greadigol ehangach y ddinas.

Cyn y gweithdy byddwn yn rhannu gwybodaeth gefndirol, ffeithiau a ffigyrau, adnoddau ac ysbrydoliaeth ar ein gwefan. Ar ôl y gweithdy byddwn yn anfon y newyddion diweddaraf yn rheolaidd am gynnydd a'r ffyrdd y gallwch gymryd rhan wrth i'r syniadau ddatblygu. Byddwn hefyd yn cyhoeddi dwy her ddinas greadigol ychwanegol yn y misoedd nesaf, felly os nad ydych yn aelod o Gaerdydd Creadigol eto, ymunwch â'n rhwydwaith i gael gwybod mwy am sut allwch chi gymryd rhan.

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event