Crëwr Cynnwys Digidol

Cyflog
£29,000-£34,000 y flwyddyn
Location
Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid.
Oriau
Full time
Closing date
15.06.2025
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 30 May 2025

Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys ar draws platfformau digidol yn ddyddiol gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl, yng Nghymru a thu hwnt. Mae presenoldeb S4C ar y llwyfannau yma yn rhan allweddol o drawsnewid digidol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynnwys digidol, gwreiddiol yn ogystal â chynnwys sydd yn cyd-fynd â rhaglenni a chyfresi S4C mae'n faes prysur, heriol a chyffrous.

Fel Crëwr Cynnwys Digidol byddwch yn gyfrifol am ddatblygu, cynhyrchu a churadu cynnwys ar gyfer YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r rôl hon yn gofyn am gyfuniad o greadigrwydd, sgiliau technegol, a meddwl strategol i greu fideos, graffeg, a phostiai o safon uchel sy'n ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd targed a chryfhau ein brand. Byddwch hefyd yn archwilio archif S4C ac ail bwrpasu cynnwys ar gyfer llwyfannau a chynulleidfaoedd amrywiol digidol.

Chi a'r tîm fydd llais S4C ar YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol – yn perchnogi'r cyfrifon trwy fod yn chwareus, neidio ar "trends" ehangach a chreu sŵn. Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol ar gyfer y rôl.

Manylion Eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: £29,000 - £34,000 y flwyddyn

Oriau Gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn gyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Oherwydd natur y gwaith, efallai bydd angen i chi weithio yn ôl patrwm sifft weithredol. Felly byddwch yn gweithio yn wythnosol pum diwrnod allan o saith, yn unol â gofynion y gwasanaeth. Os oes angen i chi gweithio patrwm shifft mi fyddwch yn cael eich hysbysu o'r patrwm shifft o flaen llaw.

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Sul 15 Mehefin 2025 trwy lenwi'r ffurflen gais yma.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.