Comisiwn Animeiddio Caerdydd Creadigol

Cyflog
£500 x 8 chomisiwn i artistiaid
Location
Caerdydd
Closing date
14.06.2023
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 31 May 2023

Trosolwg

Mae Caerdydd Creadigol am gomisiynu wyth artist i ddylunio fersiwn o logo Caerdydd Creadigol, i'w ddefnyddio ar bosteri mewn lleoliad yng nghanol y ddinas, mewn asedau digidol, ac ar ffurf animeiddiad. Bydd y dimensiynau a brasgynllun yn cael eu darparu gan Caerdydd Creadigol, ac rydym yn gofyn i artistiaid weithio o fewn y brasgynllun hwn i greu dyluniad, darluniad neu ddehongliad creadigol arall o'r logo. Bydd pob un o’r dyluniadau yn dangos y logo ar gam gwahanol yn y broses o gylchdroi, a fydd wedyn yn cael eu hanimeiddio ynghyd i greu un ased digidol o'r logo’n symud, yn cynnwys pob un o'r wyth dyluniad unigol. 

Cefndir

Yn ystod pandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau symud, cyflwynodd Caerdydd Creadigol nifer o weithgareddau comisiynu artistig. Roedd y rhain wedi’u cynllunio i gefnogi artistiaid lleol, meithrin gwytnwch, a galluogi ystod o leisiau creadigol gwahanol i adrodd eu stori ar adeg o ddefnydd diwylliannol cyfyngedig. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys 'Fy Nghaerdydd Creadigol' – prosiect adrodd storïau digidol a gynlluniwyd i arddangos sector creadigol y ddinas yn 2020 – ac 'Ein Lle Creadigol' yn 2021, a ddygodd ynghyd ac a ddatblygodd naratif y gymuned greadigol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a hynny mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru. Gyda'i gilydd, cefnogodd y gwaith hwn 35 o artistiaid lleol a rhoi bron £40,000 yn ôl i'r gymuned greadigol yn Ne Cymru, yn ogystal â meithrin partneriaethau a chydweithrediadau newydd.

’Nawr, mae Caerdydd Creadigol yn ceisio adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn drwy ddarparu cyfle comisiynu pellach i artistiaid a phobl greadigol leol, a chysylltu hyn yn uniongyrchol â'n hunaniaeth a'n brand. Nod y gwaith hwn yw cyfleu'r hyn y mae Caerdydd Creadigol yn ei olygu – sef cysylltu artistiaid, cydweithio â'r gymuned, ac arddangos pobl greadigol leol.

Y comisiwn 

Rydym yn cynnig comisiynu ystod amrywiol o ymarferwyr creadigol sy'n gweithio yn y ddinas mewn cyfryngau gwahanol i gynhyrchu gwaith sy'n cyfleu mewn modd creadigol yr hyn y mae Caerdydd Creadigol yn ei olygu iddynt.

Rydym yn chwilio am weithiau newydd sy'n gweithio gyda dimensiynau'r logo i gyflawni un neu ragor o’r canlynol:

  • Dangos y ddinas mewn modd gweithredol ac ystyrlon – ei lleoliadau, ei thirnodau, ei mannau gwyrdd, ei phensaernïaeth drefol – a'r bobl sy'n byw ynddi;

  • Adlewyrchu hunaniaeth cymunedau amrywiol Caerdydd – rhai’r presennol a'r dyfodol, fel ei gilydd;

  • Adlewyrchu'r amrywiaeth o sectorau creadigol sy'n ffynnu yn y ddinas;

  • Dangos yr hyn y mae creadigrwydd Caerdydd yn ei olygu i chi.

Bydd y gwaith a gomisiynir yn helpu i ddatblygu a llunio ein hunaniaeth a'n brand – a’r modd yr ydym yn ymgysylltu â'r bobl greadigol ar ein rhwydwaith.

Beth a fydd yn digwydd i'r dyluniadau?

Bydd pob dyluniad yn cael ei argraffu ar boster a'i arddangos mewn lleoliad yng nghanol y ddinas am gyfnod o bythefnos. Hoffem hefyd gynhyrchu darnau ategol o gynnwys i arddangos y dyluniad a hyrwyddo lleoliad y poster, a fydd yn cynnwys proffiliau o bob artist a'r hyn a ysbrydolodd ei waith. Gellir gweld y proffiliau hyn hefyd trwy god QR ar y poster. Bydd y dyluniadau hefyd yn ymddangos ar sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan Caerdydd Creadigol.

Ar ôl y cyfnod o bythefnos, bydd animeiddiad digidol yn cael ei greu gan ddefnyddio pob un o'r chwe dyluniad, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar ein gwefan ac ar ddechrau a diwedd cynnwys fideo a chynnwys cymdeithasol.

Gall y gweithiau hefyd ymddangos ar nwyddau, deunydd cyfathrebu a deunydd cyfochrog wedi’i frandio Caerdydd Creadigol.

Fformat:

Dylai'r allbwn creadigol gan artistiaid a gomisiynir fod yn weledol yn bennaf o ran ei gwmpas, neu'n gallu cael ei 'ddelweddu' at ddibenion arddangos a lledaenu (e.e. mewn lleoliad ffisegol yng nghanol y ddinas, yn ogystal ag ar ddeunydd cyfochrog mewn print ac ar ffurf ddigidol).

Gallai’r cynigion fod ar ffurf darlun, dyluniad digidol, gwaith celf, neu ymarfer yn seiliedig ar ffotograffiaeth. Fodd bynnag, enghreifftiau yw’r rhain, ac nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth.

Yn ddelfrydol, dylai’r gweithiau adleisio’r ddinas a hunaniaeth brand Caerdydd Creadigol.

Cyflwyno Cais:

Gofynnwn i ymgeiswyr anfon cais byr atom, gan ateb y cwestiynau canlynol:

  1. Dywedwch wrthym am eich gwaith blaenorol, ynghyd ag enghreifftiau (uchafswm o 300 o eiriau)

  2. Dywedwch wrthym am eich syniad a’r modd y mae'n berthnasol i Caerdydd Creadigol, y ddinas neu'r rhanbarth (uchafswm o 500 o eiriau)

  3. Ym mha fformat y byddwch yn cyflwyno'r gwaith?

  4. Rhowch enwau dau ganolwr y gallwn gysylltu â nhw i ofyn iddynt amdanoch chi a'ch gwaith.

Anfonwch eich ceisiadau at creativecardiff@cardiff.ac.uk gan ddefnyddio'r llinell pwnc 'Comisiwn Animeiddio Caerdydd Creadigol' erbyn dydd Mercher 14 Mehefin am 17:00.

Amserlen:

Gweithgaredd

Dyddiad cau

Dyddiad cau ar gyfer cynigion

14 Mehefin 2023

Cyfnod asesu a dethol

14 Mehefin – 15 Mehefin 2023

Rhoi gwybod i’r artistiaid llwyddiannus

16 Mehefin 2023

Darluniau wedi ei chwblhau erbyn

26 Mehefin 2023 

Arddangos y posteri

10 Gorffennaf 2023

Cynhyrchu’r animeiddiad

17 Gorffennaf 2023

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.