Hoffai Caerdydd Creadigol, Prifysgol Caerdydd, a British Council eich gwahodd chi i'r digwyddiad canlynol:
Caerdydd: Prifddinas Greadigol
Symposiwm i ystyried sut beth yw dinas greadigol.
Dydd Iau 8 Rhagfyr, 9.30am – 4pm
Adeilad Hadyn Ellis, Prifysgol Caerdydd, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HR.
Yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu yn ystod blwyddyn gyntaf Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â themâu a thueddiadau sy'n codi o waith ymchwil ehangach.
Ceir ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd yr economi greadigol, nid yn unig o ran ei chyfraniad at ansawdd bywyd pobl, ond fel rhan benodol o'r economi yn ôl ei rhinwedd ei hun.
Mae tystiolaeth o ffynonellau amrywiol yn cadarnhau'r argraffiadau cynnar fod Caerdydd yn ddinas creadigol a bod ganddi sector ddiwylliannol o bwys sy'n rhan annatod o'r ddinas ac yn gonglfaen o'i heconomi.
Yma yng Nghaerdydd Creadigol, rydym wedi dechrau ar y broses o fapio economi greadigol Caerdydd. Caiff y gwaith hwn ei wneud ochr yn ochr â chreu Rhwydwaith Caerdydd Creadigol, a sefydlwyd ym mis Hydref 2015.
Prif Siaradwr: Hasan Bakhshi, Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol ym maes Polisïau ac Ymchwil, Nesta
Cadeirydd: Yr Athro Ian Hargreaves, Cadeirydd yr Economi Ddigidol, Prifysgol Caerdydd.
Siaradwr: Yr Athro Justin Lewis, Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd
Rhaglen lawn y siaradwyr i ddilyn.