Caerdydd Creadigol - Fforwm Cymunedol

Cyflog
£150 pob cyfarfod
Location
Caerdydd
Closing date
23.12.2025
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 6 November 2025

I nodi 10 mlwyddiant Caerdydd Creadigol yn 2025, rydyn ni’n chwilio am leisiau cymunedol newydd o ystod eang o sectorau creadigol i ffurfio rhan o Fforwm Cymunedol sy'n seiliedig ar weithredu y disgwylir iddo gynghori ar gyfeiriad strategol Caerdydd Creadigol, gan rannu syniadau, adborth a chyngor. Nod y Fforwm Cymunedol newydd yw ymestyn cenhadaeth Caerdydd Creadigol i adeiladu sector creadigol cysylltiedig, cydweithredol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Beth yw'r Fforwm Cymunedol?

Bydd gan y Fforwm Cymunedol 10 aelod y gofynnir iddynt wasanaethu am 3 blynedd, gyda dau gyfarfod awr a hanner o hyd bob blwyddyn, gyda ffi ad-dalu o £150 (a chostau teithio a chynhaliaeth os yn teithio y tu allan i Gaerdydd) fesul cyfarfod.

Mae taliad ar gael i aelodau sy’n:

  • Weithwyr Llawrydd
  • Gweithio i fusnes bach
  • Myfyrwyr

 

Rydym yn annog cyfranogiad wyneb yn wyneb ond yn cydnabod nad yw hyn bob amser yn bosibl a gallwn wneud addasiadau i alluogi cyfranogiad mor eang â phosibl.

Mae'r Fforwm Cymunedol yn rhan allweddol o strwythur llywodraethu Caerdydd Creadigol. Bydd Tîm Rheoli Caerdydd Creadigol a Thîm Uwch Reolwyr Canolfan yr Economi Greadigol yn ystyried argymhellion i ddylanwadu'n uniongyrchol ar benderfyniadau ar lefelau gweithredol a strategol.

Bydd y Bwrdd Cynghori’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau sydd wedi’u cynllunio a gweithgareddau sydd ar ddod.

Anfonir agenda atoch ymlaen llaw a fydd yn cael ei llunio gan Dîm Caerdydd Creadigol ac aelodau'r Fforwm. Bydd y cyfarfod yn cynnwys trafodaethau bwrdd crwn, galwadau i weithredu a chyfle i rwydweithio.

Bydd cofnodion ffurfiol y cyfarfod yn cael eu dosbarthu o fewn 14 diwrnod i ddechrau'r cyfarfod.

Am bwy ydyn ni’n chwilio?

Gyda'n holl weithgarwch, rydym yn awyddus i gyrraedd pwll eang o bobl greadigol er mwyn sicrhau ein bod yn clywed y syniadau gorau. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod ein hymgysylltiad yn gynrychioliadol o'n cymuned ehangach yn ei hamrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol. Rydym hefyd yn gobeithio ysbrydoli llinellau ymchwil ac ymgysylltu trawsnewidiol a chynhwysol a fydd yn herio ffyrdd presennol o feddwl.

Rydyn ni’n chwilio am bobl sy'n gyffrous am ein gwaith ond sydd hefyd yn hapus i'n herio i'n helpu ni i dyfu.

Hoffem gael aelodau Fforwm Cymunedol a all gyfrannu at ein meddwl, ein strategaeth a’n cynllun busnes, gan helpu yn y pen draw i sicrhau ein bod yn parhau i weithio’n unol â’n gwerthoedd craidd o dwf ecosystem cynaliadwy a chynhwysol.

Does dim rhaid i chi fod wedi bod ar fforwm neu fwrdd o'r blaen. Byddwn ni’n gweithio gyda phob ymgeisydd llwyddiannus i sicrhau bod ganddyn nhw'r gefnogaeth angenrheidiol i wneud cyfraniad llawn at eu rôl.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sy'n gysylltiedig â chwmnïau a sefydliadau mawr a bach, sefydliadau academaidd, grwpiau cymunedol a gweithwyr llawrydd.

Yn bwysig, rydyn ni’n gobeithio dod â safbwyntiau newydd i'n prosiectau a'n prosesau, sy'n golygu pobl â phrofiadau bywyd a phroffesiynol gwahanol i ni a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sector. Rydym hefyd yn edrych i gynrychioli cymaint o sectorau diwydiannau creadigol â phosibl ar ein fforwm, gyda ffocws ar gynyddu ymgysylltiad â ffasiwn, cyhoeddi, pensaernïaeth, dylunio a'r celfyddydau gweledol.

Sut i wneud cais?

To apply, please complete this short, written form which has four questions. We welcome applications in Welsh or English. Alternatively, you can submit answers to those questions in audio or video format. Details on how to do this can be found in the form.  

I wneud cais, cyflwynwch ddatganiad o ddiddordeb sydd gyda pedwar cwestiwn. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Gallwch hefyd yrru fideo yn egluro pam yr hoffech ymuno â'r Fforwm Cymunedol. Mae'r manylion o sut i yrru ceisiadau fideo a llais i'w gael drwy'r ffurflen.

Ewch i'r ffurflen.

Bydd Caerdydd Creadigol yn gweithio gyda phob ymgeisydd i sicrhau bod gofynion mynediad yn cael eu bodloni yn ystod y broses hon. E-bostiwch ni os oes angen rhagor o gymorth arnoch.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad yr hoffech eu trafod gyda ni neu os oes gennych 'access rider' yr hoffech ei rannu mewn perthynas â chymryd rhan mewn cyfarfodydd, cysylltwch â ni ar creativecardiff@cardiff.ac.uk. 

Amserlen

Ceisiadau'n agor - 6 November.  

Ceisiadau'n cau – 23 Rhagfyr am 12pm 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.