Yng Nghaerdydd Creadigol, rydym yn cynnal cyfleoedd rheolaidd i bobl greadigol ddod at ei gilydd i gysylltu a chydweithio drwy ddigwyddiadau rhwydweithio, paneli a digwyddiadau cymdeithasol. Ers 2022, rydym hefyd wedi cynnal amrywiaeth o weithdai ‘Ystafell Ddosbarth Caerdydd Greadigol’, o rwydweithio i siarad cyhoeddus i wneud torch Nadolig i ysgrifennu.
Mae'r gweithdai hyn yn rhoi cyfle i bobl greadigol blymio'n ddwfn i bynciau penodol gyda grŵp o unigolion o'r un anian.Gan redeg ochr yn ochr â’n digwyddiadau Ystafell Ddosbarth Caerdydd Creadigol, mae’n bleser gennym lansio menter beilot newydd AMDANI, gan ddod ag artistiaid, gweithwyr llawrydd a busnesau ynghyd i fod yn greadigol a rhwydweithio mewn amgylchedd anffurfiol, wedi’i hwyluso gan berson creadigol sy'n dod i'r amlwg.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd ein cyfres AMDANI gyntaf yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth a'r MA mewn Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd.
Yn cael ei gynnal yn fisol o fis Chwefror 2025, bydd Caerdydd Creadigol yn cynnal Grŵp Ysgrifennu agored, rhad ac am ddim i bobl greadigol yn Tramshed Tech, Caerdydd. Bydd pob Grŵp Ysgrifennu misol yn cael ei hwyluso gan fyfyriwr sy’n astudio ar gyfer ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol a bydd yn canolbwyntio ar bwnc, thema neu genre gwahanol.
Bydd y sesiwn AMDANI hon yn seiliedig ar Lais a Phersbectif Naratif, dan arweiniad Jonny Evans, a bydd yn cynnwys yr elfennau canlynol i'w harchwilio trwy ymarferion a thrafodaeth:
- Person Cyntaf - Agos, Goddrychol
- Trydydd Person Agos vs Hollwybodol
- Ail Berson - Anarferol, Trochol, Arbrofol
- Adroddwr Annibynadwy - Creu tensiwn ac amwysedd
Yn gyn-athro ac arweinydd ysgol uwch, mae Jonny Evans wedi bod yn fyfyriwr BA ac MA ym Mhrifysgol Caerdydd am y pedair blynedd diwethaf, gan gwblhau'r Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol yn llwyddiannus yn ddiweddar. Mae wedi ysgrifennu a chyhoeddi barddoniaeth a darnau teithio/cofiant ar-lein ac ar hyn o bryd mae'n gweithio ar nofel ffantasi epig lawn y bydd yn ei chyflwyno i asiantau llenyddol y flwyddyn nesaf.
Cofrestrwch eich lle am ddim yma.
