Yn dilyn ein digwyddiad Gwneud yn Ddigidol, Meddwl yn Ddigidol yn Pinewood yn 2016, hoffai Caerdydd Creadigol a BAFTA Cymru eich gwahodd i ddigwyddiad Visioning the New Realities; trafodaeth ynglŷn ag integreiddio rhith-wirionedd i'r sectorau creadigol.
Rydym yn awyddus i ddod â'r gymuned rhith-wirionedd ynghyd ac yn bwriadu amlygu'r holl waith diddorol ac arloesol sy'n digwydd yng Nghaerdydd a'r ddinas-ranbarth, ynghyd ag asesu'r clwstwr technoleg greadigol yn yr ardal ddaearyddol hon.
Rydym wrth ein bodd i groesawu Greg furbur.
Bydd cyfle hefyd i glywed cyfres o gyflwyniadau byr gan unigolion, asiantaethau a sefydliadau a leolir yng Nghymru sy'n cymryd rhan mewn prosiectau rhith-wirionedd diddorol yn eu gwaith presennol.
- David Massey - Welsh National Opera
- Robin Moore - BBC
- Glenn Hapgood - Orchard
- John Culling - Cardiff University
- Beth Meade - Wales Millennium Centre
- Mark Johnson - Immerse UK
- Paul Osbaldeston - Welsh Government
Bydd gennym farchnad ar gyfer arddangosiadau gan grwpiau bach – os hoffech ddod â thechnoleg i'w rhannu , cysylltwch â ni.
Cynhelir Visioning the New Realities ddydd Iau, 16 Tachwedd rhwng 9am a 1pm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.