Yn ystod y degawd diwethaf, mae canolfannau creadigol a lleoedd ar gyfer cydweithio wedi datblygu i fod yn lleoedd hanfodol o ran y modd y mae pobl greadigol yn gweithio ac o ganlyniad, i dwf a datblygiad yr economi greadigol ar draws y byd.
Ym Mhrifysgol Caerdydd – drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf yn enwedig – mae nifer o ganolfannau creadigol wedi’u sefydlu ac mae ganddynt oll rywbeth gwahanol i’w gynnig. Mae'r rhain yn lleoedd lle mae pobl greadigol, entrepreneuriaid ac arloeswyr digidol – gweithwyr llawrydd neu weithwyr mewn cwmnïau bach – wedi cael cartref i weithio.
Er mwyn deall yr amgylchedd gydweithio hon, rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgynghori ac archwiliadol, gan gynnwys:
-
Canolfan dros dro am wythnos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod mis Mehefin 2016.
-
Digwyddiad Dangos a Dweud ym mis Medi 2016 yn cynnwys siaradwyr o ganolfannau’r ddinas.
-
Cyfle i Grwydro Canolfannau Caerdydd Creadigol , gan ymweld â thair o ganolfannau Caerdydd ym mis Mawrth 2017.
-
Prosiect Rhwydweithio Canolfannau Creadigol yn rhan o Raglen Gyfnewidfa Dinas-ranbarth Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, o fis Mehefin 2017 ymlaen.
O ganlyniad i'r prosiect Rhwydweithio Canolfannau Creadigol, gwnaethom sefydlu grŵp pobl sy’n cynhyrchu, cyfarwyddo neu’n cefnogi mannau ar gyfer cydweithio a chanolfannau creadigol ym Ninas-ranbarth Caerdydd, o’r enw y Gydweithfa Greadigol.
Mae potensial a gallu sylweddol i aelodau’r canolfannau hyn gydweithio a rhannu gwybodaeth. Ar hyn o bryd, mae’r grŵp hwn yn cwrdd bob deufis mewn gwahanol ganolfannau. Maent yn rhannu gwybodaeth ac arferion da, ac yn gwneud cynlluniau ar gyfer cydweithio a chynyddu gweithgarwch.
Maen nhw'n agored i gynnwys canolfannau creadigol eraill. Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw cysylltu â ni yn y lle cyntaf. Dewch i wybod mwy am aelodau’r Gydweithfa Greadigol isod.