Mae tîm craidd Caerdydd Creadigol yn cynnwys:
- Cyfarwyddwr, Sara Pepper
- Rheolwr Prosiect, Vicki Sutton
- Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Kayleigh McLeod a
- Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu, Beca Harries
Cafodd Caerdydd Creadigol ei gydsefydlu yn 2015 gan yr Athro Justin Lewis a'r Athro Ian Hargreaves o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Justin yw Arweinydd Academaidd Caerdydd Creadigol.
Gan ein bod yn gweithio mewn prifysgol, rydym yn aml yn croesawu myfyrwyr i'r tîm. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda myfyriwr MA Newyddiaduraeth Darlledu Ffion Clarke, sy'n beiriannwr stiwdio a golygydd podlediadau Caerdydd Creadigol, Get a Proper Job a Rhywbeth Creadigol.