Headshot of Sara Pepper

Sara Pepper

Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol

Rôl Sara yw darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i brosiect a thîm yr economi greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei huchelgais yw ysbrydoli, annog a chefnogi perthnasau gwaith ledled y ddinas drwy rwydweithio, ymgysylltu â phartneriaethau a chyfnewid gwybodaeth, a fydd yn ei dro yn galluogi Caerdydd Creadigol i gyflawni ei nodau.

Sara yw Prif Swyddog Gweithredu Clwstwr - un o naw Clwstwr y Diwydiannau Creadigol ar draws y DU, a ariennir gan Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU - sy’n ceisio rhoi arloesedd, ymchwil a datblygu wrth wraidd cynhyrchu cyfryngol yn ne Cymru. Mae hi’n gyfrifol am weithredu dyheadau a chynlluniau’r Clwstwr o ddydd i ddydd. Mae hi’n gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys partneriaid academaidd, yn y diwydiant ac yn y llywodraeth.

Mae Sara yn angerddol dros hyrwyddo a datblygu talent a syniadau newydd a meithrin partneriaethau sy’n galluogi unigolion a sefydliadau i wireddu eu potensial creadigol a masnachol yn llawn.

Yn flaenorol, mae Sara wedi dal swyddi amrywiol, o gynhyrchu i reoli prosiectau, ar gyfer sefydliadau fel Canolfan Southbank, y BBC, Canolfan y Mileniwm, Ysgol Celf a Chyfryngau Newydd Prifysgol Hull a Gemau Olympaidd Sydney 2000. Ar hyn o bryd mae Sara’n aelod o Grŵp Cynghori Cerddorfa Genedlaethol y BBC a Chorws Cymru, a Bwrdd Cynghori Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event