Ein Lle Creaidgol - BSL + Cymraeg Vimeo.
Y cyfle
Beth sy'n arbennig am fod yn greadigol yn yr ardal lle rydych chi'n byw?
Mae Caerdydd Creadigol yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i gomisiynu ymarferydd creadigol o bob un o'r ardaloedd awdurdodau lleol sy'n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd (Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Merthyr Tudful; Sir Fynwy; Casnewydd; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; a Bro Morgannwg) i gynhyrchu darn o waith yr un sy'n mynegi'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn greadigol yn yr ardal honno.
Rydym am weithio gyda chi i ddatblygu ymhellach stori cymuned greadigol sy'n tyfu, ac sydd â chysylltiad cynyddol, ar draws y rhanbarth.
Cewch chi adrodd y stori...
Efallai y byddwch am gynhyrchu darn o waith sy'n adlewyrchu eich profiad chi o fod yn rhan o’ch cymuned greadigol yn ystod pandemig COVID-19. Sut mae eich ymarfer wedi addasu a sut crëwyd cysylltiad rhyngoch chi a phobl eraill yn eich cymuned greadigol ar yr adeg hon?
Neu efallai bod gennych chi stori wych am fod yn greadigol yn eich ardal nad yw'n gysylltiedig â'r pandemig.
Gallai'r cynnyrch creadigol fod yn; berfformiad o ddarn newydd o ysgrifennu, animeiddiad, ffilm fer, gwaith celf digidol, gwrthrych a grëwyd ac a ffotograffwyd, darn o gerddoriaeth wedi'i gosod dros ddelweddau. Enghreifftiau yw'r rhain, felly peidiwch â gadael iddyn nhw gyfyngu ar eich dychymyg.
Ni ddylai unrhyw ddarn fod yn hwy na phum munud a gall fod mor fyr ag sy'n addas i ddweud y stori orau, yn eich barn chi. Rydym ni'n croesawu ceisiadau gan amrywiaeth o ymarferwyr creadigol yn gweithio mewn gwahanol ddisgyblaethau, ieithoedd a chyfryngau. Rydym yn croesawu darnau sy'n adlewyrchu hunaniaeth pob lle.
Rhaid i'r gwaith fod yn addas i'w arddangos fel rhan o fap stori digidol.
Gallwch weld enghreifftiau o wal stori Ein Caerdydd creadigol 2020 yma. Bydd map stori Ein Lle Creadigol hefyd yn cael ei gynnal ar wefan Creative Cardiff mewn fformat tebyg.
Mae'r prosiect hwn yn agored i ymarferwyr creadigol hunangyflogedig yn unig.
Cysylltwch â ni trwy ebost neu ffôn ( 02922 511597) os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich syniad neu os hoffech gael unrhyw gymorth gyda'ch cais.
Y gyllideb
Mae gennym gyllideb o £1,000 i bob ymarferydd fydd yn cynnwys ffi a threuliau.
Byddwn yn darparu cymorth ychwanegol [h.y. mynediad/BSLI ac ati] lle bo angen er mwyn i chi allu cymryd rhan yn y cyfle hwn.
Byddwn yn ystyried mynediad o safbwynt y creadigol a'r rhai sy'n profi'r darnau a gomisiynwyd, gan gymryd agwedd greadigol at y broses hon. Felly, croesewir y gallu i gyflwyno eich gwaith arfaethedig mewn ffyrdd amlsynhwyraidd a bod diddordeb gennych mewn ystyried gwneud hynny. Yn rhan o'r prosiect, byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag ymgynghorydd mynediad. Bydd yn eich helpu i ddatblygu hygyrchedd eich gwaith trwy ddulliau creadigol sy'n ategu eich gwaith neu'n rhan annatod ohono.
Pam?
Yn Caerdydd Creadigol, rydym yn cydnabod ac yn hyrwyddo pwysigrwydd rhwydweithiau, cysylltiadau a chreu lleoedd. Trwy ymestyn i mewn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, ein nod yw adeiladu rhwydweithiau a chysylltiadau newydd i ddeall yn well sut mae naratif y gymuned greadigol yn edrych ar draws y rhanbarth, ble mae gweithgaredd yn digwydd a beth allai ddigwydd yn y dyfodol.
Bydd y prosiect Ein Lle Creadigol yn dechrau adeiladu stori rhanbarth creadigol ar y cyd. Mae'r prosiect hwn yn cyfuno daearyddiaethau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, wedi'u seilio ar straeon cymhellol sy'n datgelu ac yn llunio'r cymunedau amrywiol sy'n byw ac yn gweithio yn y rhanbarth.
Y broses
Bydd y bobl greadigol a gaiff eu comisiynu'n gweithio'n unigol ond bydd gofyn iddyn nhw wneud y canlynol:
-
Cymryd rhan mewn un sesiwn syniadau grŵp gychwynnol ar-lein ac un sesiwn adfyfyrio grŵp ar ddiwedd y prosiect, dan arweiniad Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol, Vicki Sutton. Nod y sesiynau hyn yw creu cysylltiadau rhwng ymarferwyr creadigol.
-
Cefnogwch ni i adeiladu adnoddau mynediad creadigol ar gyfer eich darn.
-
Cyfrannu syniadau ac adborth i 'ddarn myfyrio' ychwanegol ar y cyd.
Cynulleidfa a rhannu
Mae'r brif gynulleidfa ar-lein, ond efallai y bydd y gwaith hefyd yn cael sylw mewn arddangosfa fyw yn y rhanbarth yn y dyfodol (2021 - i'w gadarnhau yn dibynnu ar gyfyngiadau COVID-19).
Bydd disgrifiadau ysgrifenedig byr iawn o'r ymatebion y byddwch chi wedi'u cynhyrchu'n cyd-fynd ag arddangos y gwaith ar y wefan.
Bydd y bobl greadigol a gomisiynwyd yn cadw’r hawlfraint. Byddwn am allu ei defnyddio am byth i adrodd y stori hon (fel yr amlinellir yn y brîff) ar draws ein sianeli digidol. Bydd y bobl greadigol yn cael eu cydnabod lle bynnag y rhennir y gwaith.
Llinell amser
Ceisiadau yn agor: Dydd Llun, 18 Ionawr 2021
Ceisiadau yn cau: Dydd Llun 12 hanner dydd, 8 Chwefror 2021
*Bydd gennych oddeutu chwe wythnos i greu eich darn*
Cyflwyno cais
1. Llenwch y ffurflen gais fer hon
2.Darparwch enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol, manylion cyswllt dau ganolwr a nodwch ym mha Awdurdod Lleol yr ydych chi.
Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau, enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol a'ch canolwyr a hefyd eich ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ahss-admin@cardiff.ac.uk .
Rydym ni'n croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl greadigol sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac ieithoedd eraill. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi mwy o bobl greadigol sydd o gefndir a/neu hunaniaeth wedi’i thangynrychioli. Ymhlith eraill, mae’r rhain yn cynnwys pobl greadigol o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, pobl greadigol o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, pobl greadigol B/byddar, pobl greadigol niwroamrywiol, pobl greadigol ag anableddau neu anawsterau iechyd tymor hir a chreadigol â hunaniaethau LGBTQIA +.
Rhaid i'r holl brosiectau gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar adeg cyflwyno.