Ymddiriedolwyr - NoFit State Circus

Cyflog
voluntary
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
31.10.2022
Profile picture for user lizzy

Postiwyd gan: lizzy

Dyddiad: 4 October 2022

NoFit State Circus yn chwilio am rhwng tri a phum Ymddiriedolwr Newydd.

Os hoffech chwarae rhan hanfodol yn llunio dyfodol cwmni syrcas cyfoes mwyaf Prydain, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Ymunwch â ni!

Mae NoFit State yn gwmni syrcas gyfoes uchel ei barch. Yng Nghymru y mae ei wreiddiau ond mae ganddo fydolwg rhyngwladol.

Mae rhaglen deithiau flynyddol y cwmni’n cynnwys cynyrchiadau proffesiynol bach a mawr; o berfformiadau awyr-agored a safle-benodol  i deithiau Big Top.

Caiff ein Rhaglen Gymunedol ei chyd-greu gyda’n cymunedau lleol iawn ac eithriadol o amrywiol. Mae’r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o brosiectau dysgu creadigol a pherfformio cyhoeddus ac mae cannoedd o bobl leol yn cymryd rhan bob blwyddyn.

 

Hoffem glywed oddi wrthych os mai dyma’r tro cyntaf y byddech yn Ymddiriedolwr neu os oes gennych brofiad eisoes o fod yn aelod o Fwrdd.

A chithau’n Ymddiriedolwr, byddwch yn gyfrifol am:

Sicrhau bod NoFit State yn cyflawni ei ddiben a’i weledigaeth a byddwch yn cytuno ar strategaeth hirdymor i wneud hyn.

Sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i ddogfen lywodraethol, cyfraith elusennau, a phob deddfwriaeth neu reoliad perthnasol arall.

Sicrhau llywodraethiant effeithiol, yn cynnwys bod â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol yn eu lle.

Cyfrannu at drafodaethau’r Bwrdd i ddiffinio cyfeiriad strategol a nodau, ac adolygu perfformiad.

 

Am fwy o wybodaeth: https://www.nofitstate.org/cy/about/gyrfaoedd-chastio/

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw: 10yb, dydd Llun 31 Hydref 2022

Cynhelir cyfweliadau ar Zoom ar wythnosau yn dechrau 7 a 14 Tachwedd 2022

Cynhelir ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol lle caiff Ymddiriedolwyr newydd eu hethol i’r Bwrdd tua diwedd Tachwedd.

 

Mae Nofit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â lizzy@nofitstate.org neu ffonio 02921 321 026

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.