Mae rhaglen newydd 2020 Theatr y Sherman yn parhau gyda'u cenhadedd o adrodd straeon lleol gyda pherthnasedd byd-eang a dod yn bwerdy theatr i Gymru.
Dyma'r tymor cyntaf dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig newydd, Joe Murphy, sy'n addo blwyddyn o theatr gyfredol wedi'i chreu wrth galon Caerdydd. Mae'r rhaglen o flaen y gad o ran ysgrifennu newydd gyda saith drama gan sgriptwyr o Gymru, pedwar premiere byd a chynyrchiadau gan Brad Birch, Katherine Chandler, Tracy Harris, Daf James a Lisa Parry.
Meddai Joe Murphy am ei dymor cyntaf a chyhoeddi rhaglen 2020:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi fy nhymor cyntaf yn Theatr y Sherman. Mae'n gyffrous iawn cael lansio blwyddyn lawn o waith a dathlu dyfnder ansawdd artistig Cymru: yr artistiaid a gaiff eu hyrwyddo yma yw dechrau ein hymrwymiad i fod yn bwerdy i ddoniau o Gymru. Mae Tymor 2020 yn rhoi'r gynulleidfa wrth ei galon, gan gynnig straeon emosiynol ac effeithiol sydd wedi'u gwreiddio yng Nghymru, ond sy'n berthnasol i'r byd.
“Mae'r theatr hon yn eiddo i bobl anhygoel ein dinas wych: rhywle i gwrdd, i rannu profiadau byw, ac i ddathlu ein diwylliant. I fi, dyma galon Caerdydd".”
Joe chatted with Nicola Heywood Thomas earlier this week about his plans for Sherman Theatre.
— Sherman Theatre (@ShermanTheatre) November 15, 2019
Bu Joe yn sgwrsio gyda Nicola Heywood Thomas yn gynharach yr wythnos hon, am ei gynlluniau yn Theatr y Sherman.
Full video / Fideo llawn: https://t.co/UekwTKqETT pic.twitter.com/sUGvGZ2nsY
Mae Cyfarwyddwr Artistig wedi datgelu gwledd newydd o Artistiaid Cyswllt gyda'r actor a'r awdur Kyle Lima, yr awdur a'r cyfansoddwr Seiriol Davies, y cynllunydd Hayley Grindle a'r actor Suzanne Packer yn ymuno a'r tîm. Mae Daf James erbyn hyn yn Awdur Preswyl ac mae Katherine Chandler, Gary Owen a Patricia Logue yn dychwelyd fel Artistiaid Cyswllt.
Bydd yr actor chwedlonol o Gymro, Rhys Ifans, yn dod yn Noddwr Theatr y Sherman. Meddai Rhys, a berfformiodd yn Theatr y Sherman yn ddiweddar yng nghynhyrchiad National Theatre Wales a Theatr Royal Court o On Bear Ridge gan Ed Thomas:
"Mae'n hyfryd cael gofod fel y Sherman wrth galon y ddinas."
Bydd Rhys yn hyrwyddo'r ymgyrch Mabwysiadu Sedd er mwyn helpu i gefnogi ymdrechion y Sherman fel elusen gofrestredig i gynyddu incwm drwy roddion hael gan ymddiriedolwyr ac unigolion.
Cyhoeddwyd yn nigwyddiad lawnsio rhaglen 2020, mai Theatr y Sherman yw Theatr Noddfa gyntaf Cymru. Mae'r statws, a ddyfarnwyd gan elusen Dinas Noddfa, yn cydnabod y Sherman fel rhywle y gall ffoaduriaid a cheiswyr lloches deimlo'n ddiogel, wedi'u croesawu a'u cefnogi.
Looking back at last Thursday's celebratory performance by the Oasis Choir & Drumming Group at the moment we were awarded Theatre of Sanctuary status by @CityofSanctuary.@ShermanTheatre5 @oasiscardiff #LoveTheatreDay pic.twitter.com/aTyZ8s4E4m
— Sherman Theatre (@ShermanTheatre) November 20, 2019
Meddai Julia Barry, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Sherman
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, drwy ein rhaglen Sherman 5 a'n gwaith gyda gwirfoddolwyr a phartneriaid yn y gymuned, rydyn ni wedi bod yn lwcus o gael dechrau partneriaeth ymgysylltiol a gwerthfawr gyda'r gymuned o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghaerdydd. Mae'n fraint cael statws Theatr Noddfa, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at y cyfleoedd y bydd yn eu cynnig i ni wrth ddatblygu ein perthnasau ymhellach gyda'r gymuned fywiog hon yn ein dinas."
Mae Theatr Ieuenctid y Sherman yn parhau i ddatblygu gwneuthurwyr theatr y dyfodol. Y ddrama gyntaf i'w weld yn y Sherman bydd cynhyrchiad o The It gan Vivienne Franzmann ym mis Chwefror, a fydd wedyn yn mynd ymlaen i gael ei berfformio yng ngŵyl Connections.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyd-gynhyrchiadau gyda Theatr Genedlaethol Cymru, y National Theatr a Theatre Uncut. Bydd dangosiad cyntaf erioed o Tylwyth gan Daf James, cynhyrchiad sydd eisoes wedi'i gyhoeddi ac sy'n gyd-gomisiwn ac yn gyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru, ac a gaiff ei gyfarwyddo gan eu Cyfarwyddwr Artistig Arwel Gruffydd. Mae Tylwyth yn ddrama ffraeth a diddorol sy'n dod â'r cymeriadau poblogaidd o ddrama lwyddiannus Daf, Llwyth yn ôl i'r llwyfan. Gan edrych yn rhyfygus ar gariad, teulu a chyfeillgarwch, mae'n sylwebaeth bryfoclyd ar fywyd cyfoes yng Nghymru wrth ddilyn grŵp o ffrindiau hoyw sy'n byw yng Nghaerdydd.
Mae tocynnau i bremiere byd #Tylwyth nawr ar werth yn @ShermanTheatre.
— Theatr Genedlaethol Cymru (@TheatrGenCymru) November 15, 2019
Tickets are now on sale for the world premiere of #Tylwyth at @ShermanTheatre.
Theatr y Sherman, Caerdydd / Sherman Theatre, Cardiff
10 - 13.03.20
https://t.co/EdxsbTeJUT pic.twitter.com/fLHrg2XEvI
Yn bumed cywaith rhwng Theatr y Sherman a gŵyl ysgrifennu NEW Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae dangosiad cyntaf Ripples gan Tracy Harris, cyfranogydd yn Rhaglen Dramodwyr Cymreig Newydd y Sherman. Caiff y ddrama afaelgar newydd hon, sydd wedi'i gosod mewn canolfan adsefydlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ei chyfarwyddo gan Matthew Holmquist, cyfranogydd yng Ngrŵp Cyfarwyddwyr JMK y Sherman.
Yn rhan o dymor 2020 bydd An Enemy of the People gan Brad Birch, sef y ddrama gyntaf y bydd Joe Murphy yn ei chyfarwyddo fel Cyfarwyddwr Artistig. Mae'r ail-gread amserol hwn o addasiad 2016 Brad o ddrama wreiddiol Ibsen yn ei gosod yng nghymoedd y de, ac mae'n stori afaelgar ar gyfer y cyfnod ôl-wirionedd.
Bydd y bartneriaeth a enillodd wobr Olivier rhwng Artist Cyswllt Theatr y Sherman, Gary Owen, a'r cyn-Gyfarwyddwr Artistig Rachel O'Riordan, yn ailuno ar gyfer cynhyrchiad cyntaf y byd o Romeo and Julie, a gyd-gomisiynwyd ac a gyd-gynhyrchwyd gyda'r National Theatre. Mae Romeo and Julie wedi'i gosod yng Nghaerdydd heddiw, yn ddrama newydd rymus a doniol wedi'i hysbrydoli gan drasiedi ramantus Shakespeare.
Ym mis Hydref 2020, bydd Theatr y Sherman yn llwyfannu dangosiad cyntaf erioed The Merthyr Stigmatist gan Lisa Parry mewn cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Uncut. Cyrhaeddodd y ddrama y rhestr fer am Wobr Sgriptio Gwleidyddol Theatr Uncut 2019, yr oedd y Sherman yn bartner iddi. Bydd Emma Callander, Cyd-gyfarwyddwr Artistig Theatr Uncut, yn cyfarwyddo'r ddrama ffyrnig newydd hon lle mae disgybl ysgol o Ferthyr Tudful yn honni fod ganddi’r stigmata, clwyfau Crist.
Yn olaf ar y rhestr o gynhyrchiadau ar gyfer 2020 yw'r sioeau Nadolig. Bydd traddodiad Theatr y Sherman o gyflwyno cynyrchiadau Nadolig prif dŷ syfrdanol dan arweiniad actor a cherddor yn parhau gyda chynhyrchiad newydd o A Christmas Carol gan Gary Owen wedi'i gyfarwyddo gan Joe Murphy. Mae Gary wedi ail-edrych ar ei addasiad o stori glasurol Dickens, gan symud y stori i Gaerdydd yn Oes Fictoria, lle mae Ebenezer Scrooge yn dysgu ei bod yn gallu dod o hyd i hapusrwydd mewn trugaredd, caredigrwydd a chariad. I blant, bydd addasiad Katherine Chandler o'r chwedl glasurol Y Coblynnod a'r Crydd / Elves and the Shoemaker yn cynnig cyflwyniad perffaith i hud y theatr.
Ochr yn ochr â chyhoeddi rhaglen tymor 2020, mae Theatr y Sherman wedi datgelu cyfres o fentrau newydd wedi'u cynllunio i barhau â'i gwaith yn helpu i adeiladu sector theatr bywiog a chynaliadwy yng Nghymru. Mae'r mentrau yma'n cynnwys:
- Rhaglen Lleisiau nas Clywir ar gyfer sgriptwyr yn sicrhau bod lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed yn cael eu clywed, a bod ysgrifennu newydd yng Nghymru yn adlewyrchiad gwell o ystod amrywiol o leisiau Cymru.
- Bydd eu rhaglen Ty Agored yn golygu y bydd adnoddau Theatr y Sherman ar gael i gymuned greadigol Caerdydd, ac yn galluogi’r gymuned honno i ddefnyddio Theatr y Sherman fel eu cartref.
- Partneriaeth gyda BBC Writersroom Cymru ar gyfer Lleisiau Cymru 19/20; grŵp datblygu i awduron gwadd i'w gynnal yn unol â BBC Dramâu Sain Cymru.
- Bydd menter Cyflwyniad i Ysgrifennu Dramâu y Sherman, sydd â'r nod o gyflwyno pobl rhwng 15 ac 18 oed (TGAU i Safon Uwch) i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan yn parhau yn 2020.