Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn ennill £100,000 Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 4 July 2019

Cafodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ei chyhoeddi fel Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019 neithiwr (3 Gorffennaf 2019), y wobr amgueddfa fwyaf mawreddog yn y byd. Cyflwynwyd y wobr o £100,000 gan yr artist Jeremy Deller, i David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru mewn seremoni yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain.

Dewiswyd yr enillydd o bum amgueddfa ar y rhestr fer: HMS Caroline (Belfast), Nottingham Contemporary, Amgueddfa Pitt Rivers (Rhydychen), Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (Caerdydd) a V&A Dundee. Mae pob un o'r amgueddfeydd eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £10,000.

 

A dyna ni, Sain Ffagan yw Amgueddfa’r Flwyddyn @artfund 2019! 

Diolch i'n staff, partneriaid, i'r holl wirfoddolwyr, ac i @HeritageFundCYM. A diolch i chi, y cyhoedd - mae pawb wedi cyfrannu at stori Sain Ffagan mewn ryw ffordd, felly mae’r clod yma yn perthyn i ni i gyd <3 pic.twitter.com/10gAQmdKQB

— Sain Ffagan|StFagans (@StFagans_Museum) July 3, 2019

Sain Ffagan yw un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru, sy’n archwilio hanes a diwylliant y wlad. Y llynedd cwblhaodd yr amgueddfa ei phrosiect Creu Hanes, ailddatblygiad gwerth £30 miliwn i fod yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol i Cymru, gan agor orielau a gweithdy newydd a thrawsnewid ei phrofiad ymwelwyr. Drwy gydol y datblygiad, parhaodd yr amgueddfa ar agor, gan groesawu 3 miliwn o ymwelwyr i fwynhau tai o'r Oes Haearn a chanolfan grefftau newydd, yn ogystal â chynnwys 720,000 o bobl wth drawsnewidiad yr amgueddfa trwy raglen gyhoeddus ddychmygus. Roedd hyn yn adlewyrchu nod yr amgueddfa o greu hanes 'gyda' yn hytrach na 'dros' bobl Cymru.

Mae'r Gronfa Gelf yn gwobrwyo Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn flynyddol i un amgueddfa ragorol, sydd, ym marn y beirniaid, wedi dangos dychymyg, arloesedd a chyflawniad eithriadol dros y 12 mis blaenorol. Dyma'r wobr celfyddydau fwyaf ym Mhrydain a'r wobr amgueddfa fwyaf nodedig yn y byd.

Y beirniaid ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019 oedd: David Batchelor, artist; Brenda Emmanus, darlledwr a newyddiadurwr; Bridget McConnell, Prif Weithredwr, Glasgow Life; Bill Sherman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Warburg.

Dywedodd Stephen Deuchar, Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf a chadeirydd y beirniaid: 

“Mae Sain Ffagan yn byw, yn anadlu ac yn ymgorffori diwylliant a hunaniaeth Cymru. Mae'n gofeb i ddemocratiaeth amgueddfa fodern, ac mae wedi cael ei thrawsnewid trwy brosiect datblygu mawr sy'n cynnwys cyfranogiad uniongyrchol cannoedd o filoedd o ymwelwyr a gwirfoddolwyr, gan roi'r celfyddydau ac adeiladu mewn i gyd-destunau ffres - cymdeithasol a gwleidyddol, hanesyddol a chyfoes. Gwnaed y lle hudol hwn gan bobl Cymru ar gyfer pobl ym mhobman, ac mae'n sefyll fel un o'r amgueddfeydd mwyaf croesawgar a deniadol unrhyw le yn y DU.”

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:

“Mae hawl gan bob dinesydd gymryd rhan mewn diwylliant. Rwy'n falch iawn bod Sain Ffagan wedi cael ei chydnabod gan feirniaid Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf am waith yr Amgueddfa, i roi cyfle i bawb ymgysylltu â diwylliant mewn ffordd ystyrlon.

“Diolch i staff yr amgueddfa, a'n holl ymwelwyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd wedi dod yn rhan o deulu Amgueddfa Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Hebddoch chi, ni fyddai Sain Ffagan yr Amgueddfa y mae hi heddiw.

“Credwn y gall sefydliadau diwylliannol fod yn storïwyr gwych. Dyma stori y byddwn yn ei rhannu am flynyddoedd lawer i ddod! Diolch i’r Gronfa Gelf! ”

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event