Rheolwr Adnoddau Dynol
Pwrpas S4C yw gwasanaethu’r gynulleidfa gyda chynnwys sydd yn diddanu, yn cyffroi ac yn adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mae gennym ddyletswydd i greu'r platfform ac ecosystem i sbarduno’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy’n apelio bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol. Nod S4C yw bod yn gyrchfan ar gyfer cynnwys Cymraeg creadigol, gafaelgar a deniadol sydd ar gael i’w fwynhau ar amryw o lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt.
Mae S4C yn chwilio am Reolwr Adnoddau Dynol profiadol i ymuno a’r tîm. Mi fyddwch yn darparu gwasanaeth AD i S4C gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i hyfforddi a datblygu, reoli absenoldeb, recriwtio, data, polisïau, y gyflogres, a phob agwedd arall sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol a'r Gyflogres.
Mae’r rôl yn atebol i Bennaeth Adnoddau Dynol.
Os hoffech sgwrs am y rôl, plîs cysylltwch â catrin.whitmore@s4c.cymru sef Pennaeth Adnoddau Dynol.
Manylion Eraill
Lleoliad: Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ. Rydym yn gweithredu polisi hybrid hefyd.
Cyflog: £30,000 - £38,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar lefel cymhwyster a phrofiad.
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Os am wneud cais, dylid anfon ffurflen cais i adnoddau.dynol@S4C.cymru neu Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ erbyn 17.00 y prynhawn ar ddydd Iau 30 Mehefin 2022.
Nid ydym yn derbyn CV
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.