Pobl Caerdydd - Vicki Sutton

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 5 July 2019

Bu Caerdydd Creadigol yn croesawu aelod newydd i'r tîm yr wythnos hon, Vicki Sutton. Bydd gwaith Vicki yn canolbwyntio ar y cam nesaf yn natblygiad Caerdydd Creadigol. Er mwyn i chi ddod i'w nabod ychydig yn well, rydyn ni wedi gofyn iddi ateb ambell gwestiwn am ei syniadau ynghylch creadigrwydd a stori'r ddinas.  

Mae Vicki, sy'n wreiddiol o Abertawe, wedi hyfforddi fel actor. Mae'n dod atom ar ôl gweithio am gyfnod i BAFTA Cymru lle buodd yn trefnu dros 100 o ddigwyddiadau'r flwyddyn i aelodau a'r cyhoedd. Mae Vicki'n angerddol am ddigwyddiadau ac mae wedi gweithio'n rhyngwladol gyda ffocws ar ddod ag unigolion creadigol at ei gilydd. 

Gallwch chi ddweud wrthym ni am yr hyn rydych chi'n gwneud? 

Fi yw Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol, sef rôl newydd sy'n anelu at helpu gwthio'r rhwydwaith mewn i'r dyfodol. Mi fyddai'n gweithio gyda Sara, Kayleigh a Beca er mwyn parhau i dyfu'r rhwydwaith trwy gyfres o ddigwyddiadau, prosiectau untro ac ymgyrchoedd newydd y bydd yn helpu cefnogi unigolion a sefydliadau creadigol er mwyn iddynt dyfu o ran economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. 

Dwi'n awyddus i gynyddu'r nifer o bobl sy'n gwybod am y sefydliad a throi mewn i'r prif bwynt cyswllt ar gyfer creadigrwydd yn y ddinas. Byddai'n parhau'r gwaith da sydd eisoes wedi digwydd gyda Caerdydd Creadigol a dwi wrth fy modd i fod yn ymuno â'r tîm! 

Dwi'n wreiddiol o Abertawe. Fe adawais i pan o'n i'n ddeunaw, er mwyn astudio drama ym Mhrifysgol Birmingham ac yna fe wnes i ôl-radd yn Mountview Academy of Theatre Arts yn Llundain ac fe dreuliais bum mlynedd yn Llundain fel perfformiwr, yna fe es i i weithio ar gyfer asiant - yn cynrychioli digrifwyr, actorion,  cantorion a DJs. Yna, fe es i weithio dramor fel Rheolwr Digwyddiadau yn rheoli cerddorion oedd yn perfformio ledled Ewrop.

Pam ydych chi wedi dewis gweithio yng Nghaerdydd? 

Fe symudais yn ôl i Gymru chwe blynedd yn ôl ac fe benderfynais fy mod i eisiau symud i Gaerdydd. Fe wnes i lansio swyddfa ar gyfer cwmni castio o’r enw Mad Dog Casting. Ar ôl hynny, roedden i'n tyfu fy rhwydwaith o bobl a sefydliadau a sylweddolais fy mod i wirioneddol yn mwynhau trefnu digwyddiadau a dod â phobl ynghyd. Yna, fe ges i swydd gyda BAFTA Cymru yn trefnu a rheoli ei rhaglen digwyddiadau. 

Be sy'n eich ysbrydoli chi am fod yma? 

Fe dreuliais ddegawd yn byw y tu allan i Gymru a pan ddes i nôl, roedden i'n nerfus ynglŷn â sut byddai Cymru'n ddigon i fwydo fy chwant am ddiwylliant ac mae Caerdydd wir yn gwneud hynny. Mae Caerdydd yn groesawgar iawn. Mae llwytho bobl, llefydd a sefydliadau creadigol yms yn ogystal â grwpiau chwaraeon a gwersi ffitrwydd - rhywbeth arall dwi'n angerddol amdano. I mi, mae Caerdydd yn ddinas sy'n parhau i dyfu a gwthio ffiniau. Mae yna gymunedau yn y ddinas dwi ddim yn adnabod, digwyddiadau newydd o hyd, felly mae hynny'n gyffrous. Nawr mae Caerdydd yn gartref i mi. 

Er bod Caerdydd yn fach, mae'n ddinas uchelgeisiol. Mae'n rhoi cartref i gynyrchiadau rhyngwladol enfawr, er enghraifft, neu sioeau teithiol theatr fawr neu gwmnïoedd dawnsio. Serch hynny mae'n dal i fod yn ddinas gyfeillgar. 

Pa heriau wyt ti wedi wynebu wrth weithio yng Nghaerdydd? 

Mae llawer o waith i'w wneud o ran dod â chymunedau gwahanol ynghyd yng Nghaerdydd ac i amrywio'r hyn sy'n digwydd yn y sîn creadigol. 

Dwi'n meddwl o ran lle mae'n ddiwydiannau creadigol ar hyn o bryd, dylai Caerdydd parhau i floeddio am yr hyn mae'n gwneud a wirioneddol dangos yr hyn sy'n digwydd yma. Dwi'n credu ein bod ni'n well ar wneud hynn, ond efallai os nad yw rhywun yn gweithio yn y diwydiannau creadigol dydyn nhw ddim yn gwybod am y cyfoeth o weithgareddau sy'n digwydd yma, felly dwi'n creu bod angen gwneud gwaith ynghylch y math yna o ymwybyddiaeth gyhoeddus. 

Pa mor llwyddiannus ydy Caerdydd fel dinas greadigol, yn benodol yn eich maes chi? 

Yn y degawd diwethaf, dwi'n credu bod Caerdydd wedi bod yn llwyddiannus iawn fel dinas greadigol ac mae popeth yn symud yn y cyfeiriad cywir. O'r hyn dwi'n gwybod o fy sector i - mae ffilm a theledu'n gryf yn y ddinas. Un peth dwi'n edrych ymlaen ato yn y rôl newydd yma yw'r amser a'r pwrpas i fod yn rhan o'r sîn theatr a darganfod mwy am sectorau creadigol eraill yng Nghaerdydd. 

Yn eich barn chi, pa dri pheth sydd angen digwydd i wneud Caerdydd yn ddinas greadigol? 

Bydd mwy o gyfoeth o greadigrwydd yn dod o gynrychioli mathau gwahanol o bobl a chymunedau o fewn sefydliadau a'r cynnwys sy'n cael ei greu yma. 

Fel rhywun sy'n cynnal digwyddiadau, mae prinder lleoliadau - felly bydden i'n hoffi gweld mwy o leoliadau perfformio. 

A phrofiad diwydiant ar gyfer myfyrwyr - mae llawer o waith i'w wneud er mwyn pontio addysg a diwydiant, o ran sgiliau a hyfforddi, yn ogystal â chefnogi pobl sydd yn fwy sefydlog yn eu gyrfaoedd hefyd er mwyn iddynt allu symud i'r lefel nesaf. 

Disgrifiwch eich hoff le creadigol i weithio yng Nghaerdydd. 

Dwi'n berson sy'n cael ei dylanwadu a'i hysbrydoli gan y bobl o'n cwmpas. Gallai eistedd wrth ddesg unrhyw le, ond dwi'n cael egni o'r bobl o'n cwmpas. Dwi'n hoffi'r holl leoliadau creadigol diddorol yn y ddinas fel Chapter er enghraifft a lleoedd cydweithio hefyd, ond fy hoff beth yw rhannu syniadau gyda'r rheiny o fy nghwmpas yn hytrach na'r lle ei hun. Fel merch o Abertawe, dwi'n caru'r traeth a bod ar lan y môr, ond dwi ddim yn gwneud llawer o hynny yn ystod wythnos gweithio!

Dewis unigolyn creadigol yng Nghaerdydd y dylwn wybod mwy amdanynt? 

Dwi wedi dewis Anja Conti, un hanner o'r cwmni theatr Flossy and Boo. Mae Anja yn glyfar, yn reddfol ac mae ganddi lwyth o egni da. Mae hi a Laura (o Flossy and Boo) yn creu eu cynnwys eu hunain a'i berfformio o amgylch Caerdydd a'r Deyrnas Unedig - byddan nhw yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni hefyd. Pob hwyl iddyn nhw! 

Beth sydd nesaf i ti? Pa brosiectau sydd ar y gorwel? Pa syniadau wyt ti'n gweithio arnynt? 

Rydyn ni'n defnyddio fy apwyntment i ffocysu ac adlewyrchu ar ein haelodau, gofyn am eu hadborth ynglŷn â lle ydyn ni nawr a sut gall Caerdydd Creadigol fod yn well, gan weithio tuag at gyhoeddiad am ein cynlluniau hir dymor. 

Dwi'n newydd yn y rôl yma a dwi'n gwybod cryn dipyn am Caerdydd Creadigol, ond dwi wirioneddol eisiau cyrraedd aelodau (a rheiny nad yw'n aelodau) er mwyn cael adborth gonest am y gorffennol a beth maen nhw angen gennym ni. Nawr yw'r amser! 

Gallwch ebostio Vicki gyda'ch syniadau ac adborth yma. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event