Tendr Gwerthuso

Cyflog
£5,000
Location
Cymru
Oriau
Other
Closing date
10.01.2025
Profile picture for user forgetmenotchorus

Postiwyd gan: forgetmenotchorus

Dyddiad: 28 November 2024

Rydym yn chwilio am ymgynghorydd dwyieithog sydd ag arbenigedd penodol mewn gwerthuso prosiectau a dylunio cynllun gwerthuso, yn ddelfrydol mewn lleoliadau iechyd artistig / meddyliol.

Y Prosiect

Gweledigaeth Forget-me-not Chorus yw dod â llawenydd ac ystyr yn ôl i fywydau'r rhai sy'n byw gyda dementia, ac ochr yn ochr â dementia, drwy rym canu.   Mae prosiect Goleufa | Beacon yn canolbwyntio ar ein darpariaeth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol lle rydym wedi adeiladu partneriaethau cryf ond yn ceisio tyfu a datblygu hyd yn oed ymhellach. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddetholiad o'n darpariaeth ledled Cymru, a hynny mewn lleoliadau cymunedol, ysbytai a chartrefi gofal lle mae Forget me-not Chorus yn cynnal sesiynau canu rhyngweithiol ar gyfer pobl â dementia ac aelodau o'u teulu hyd at ddwywaith y mis.  Yn y sesiynau hyn, mae arweinwyr cerddoriaeth FMNC yn defnyddio canu i gysylltu â'r rhai sy’n cymryd rhan yn Gymraeg a Saesneg fel y bo'n briodol.   

Amcanion Gwerthuso

Byddwn yn disgwyl i'r adroddiad gwerthuso ddangos effaith ac effeithiolrwydd cyflwyno sesiynau'n ddwyieithog fel y bo'n briodol. Rydym yn agored i ddull dychmygus ac arloesol a fydd yn eich helpu i gael adborth ac ymatebion gan ein cyfranogwyr.

Hoffem i'r gwerthusiad ddangos:

  • Adolygiad llenyddiaeth cynhwysfawr o bwysigrwydd cyfranogwyr â dementia yn gallu cyrchu gwasanaethau yn eu mamiaith
  • Ymchwiliad a dadansoddiad trylwyr o'r prosiect i ddangos yr effaith y mae cymryd rhan yn y sesiynau canu rhyngweithiol yn Gymraeg a Saesneg yn ei chael ar gyfranogwyr gyda dementia ac aelodau staff gofal cymdeithasol

Hoffem hefyd i'r gwerthusiad ddarparu argymhellion ar

  • Arferion gorau ar gyfer darpariaeth ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) 
  • Cyfleoedd sydd heb eu harchwilio ar gyfer datblygiad pellach

Y Gorchwyl

Cynnal gwerthusiad annibynnol o'r prosiect:

  • Creu cynllun gwerthuso / dull gweithredu a fydd yn eich galluogi i gynnal asesiad trylwyr o fodel y prosiect
  • Cynhyrchu adroddiad gwerthuso manwl dwyieithog sy'n dwyn ynghyd y canfyddiadau allweddol ynghyd ag asesiad o gyrhaeddiad ac effaith y prosiect ar yr unigolion sy'n ymwneud â'r gwasanaeth. Dylai'r adroddiadau gynnwys argymhellion a all lywio datblygiad parhaus a dyfodol model y prosiect

Llinell amser

Rydym yn gobeithio trafod ag ymgynghorydd yn hydref 2024 a hoffem i'r adroddiad gwerthuso fod wedi’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025.

Ffi

£5000 yn ogystal â lwfans teithio ar gyfer ymweld â sesiynau FMNC yn ne Cymru, gorllewin Cymru a gogledd Cymru (i'w gytuno).

Sgiliau hanfodol: 

  • Profiad amlwg o werthuso
  • Pecyn cymorth amrywiol o ddulliau ar gyfer casglu data ac asesu effaith
  • Cymraeg ysgrifenedig a llafar rhugl
  • Yn gallu darparu 2 ganolwr
  • Gwiriad DBS

Sgiliau dymunol:

  • Profiad/diddordeb yn y celfyddydau mewn gofal iechyd
  • Gwybodaeth am astudiaethau blaenorol y Celfyddydau mewn Iechyd, gan gyfeirio'n benodol at gerddoriaeth a'i effaith.

Y camau nesaf

Cyflwynwch y canlynol i ni:

  • cynnig clir a chryno sy'n manylu ar sut rydych chi'n bwriadu cyflawni'r prosiect (2 dudalen A4)
  • tystiolaeth o sgiliau a gwybodaeth berthnasol ac enghreifftiau o waith perthnasol
  • Dadansoddiad o sut byddech yn defnyddio'r ffi a llinell amser gychwynnol

Dyddiau cau 9.30am 10/01/2024

E-bost: sarah@forgetmenotchorus.com

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event