Tŷ Cerdd: Rheolwr Datblygu Artistiaid

Cyflog
£29,000-£33,000 pro rata
Location
Caerdydd (ond gall deiliad y swydd weithio o bell o unrhyw le yng Nghymru)
Oriau
Part time
Closing date
29.07.2024

Postiwyd gan: abby_charles

Dyddiad: 10 July 2024

Rydym yn recriwtio Rheolwr Datblygu Artistiaid rhan amser, parhaol i ymuno â’n tîm staff bach ond deinamig.

Bydd derbyn swydd Rheolwr Datblygu Artistiaid yn Nhŷ Cerdd yn rhoi’r cyfle i chi gysylltu’n uniongyrchol ag artistiaid ac i ffurfio gwaith ein sefydliad, sef sefydliad sy’n cael cyllid yn rheolaidd – yn ogystal â chwarae rhan weithredol yn y sector cerddoriaeth Gymreig yn ehangach.

Bydd y Rheolwr Datblygu Artistiaid yn llywio datblygiad rhaglen CoDI, y rhaglen datblygu artistiaid Tŷ Cerdd, gan ei goruchwylio a bod yn gyfrifol am ei chynnal, a hynny mewn cydweithrediad ag aelodau’r tîm, artistiaid a phartneriaid. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am raglenni CoDI o’u cychwyn cyntaf hyd at eu diwedd – o gynllunio gweithgareddau a’r llif gwaith gyda phartneriaid ac artistiaid, i gytuno ar fanylion technegol gydag aelodau’r tîm, llunio galwadau am artistiaid a chreu deunydd cyfathrebu.

Ynghyd ag elfennau cynllunio a rheoli’r rôl, bydd meithrin perthynas ag artistiaid a sefydliadau partner yn hollbwysig – bydd y Rheolwr Datblygu Artistiaid yn gweithio i sicrhau bod galwadau i artistiaid yn cyrraedd y rhai a fydd yn elwa fwyaf ohonynt, gan ddatblygu dulliau creadigol a rhyngweithiol o ymgysylltu a chyfathrebu wrth i ffrydiau newydd o weithgarwch ddatblygu.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event