Mae Poetry Wales yn chwilio am fideograffydd llawrydd i greu dwy ffilm dros y cyfnod Mehefin - Rhagfyr 2024, gyda'r rhan fwyaf o'r gwaith ffilmio yn digwydd dros yr haf.
Cyfnodolyn a gyhoeddir deirgwaith y flwyddyn yw Poetry Wales. Mae'n cyhoeddi barddoniaeth gyfoes gan rai o'r enwau mwyaf cyffrous ym myd barddoniaeth o bob cwr o'r byd. Yn 2025 byddwn yn dathlu trigain mlynedd o'r cyhoeddiad, a chyda chymorth Grant Cynulleidfaoedd Newydd Cyngor Llyfrau Cymru, mae’n bleser gennym gael cyhoeddi nifer o gyfleoedd cyfnod penodol i'n helpu i gynhyrchu rhifynnau cyntaf Cyfrol 60 a dathlu ein trigainmlwyddiant.
Disgrifiad Swydd
Rydym yn chwilio am Fideograffydd a all:
- Gyda mewnbwn gan olygydd a rheolwr y cylchgrawn, greu tair ffilm fer 10-15 munud o hyd, yn cynnwys cyfweliadau â chyn-olygyddion i ddathlu trigainmlwyddiant Poetry Wales.
- Golygu a chynhyrchu'r fideos hyn hyd at safon broffesiynol
Ein hymgeisydd delfrydol fydd rhywun sydd:
- Yn fideograffydd proffesiynol â phortffolio cryf o waith
- Yn cwblhau gwaith o fewn terfynau amser
- Â phrofiad bywyd o hiliaeth, ableddiaeth, trawsffobia, homoffobia ac/neu dlodi
Mae Poetry Wales bob amser yn agored i ystyried buddsoddi mewn rhywun a all ddangos potensial datblygu i ni yn y rôl hon, er efallai na fyddant yn gallu dangos pob un o’r meini prawf delfrydol a restrir uchod.