Dinas Cerdd: Paramore yn dod i Gaerdydd!

Mae haf gwych o ddigwyddiadau cerddoriaeth enwog yn y ddinas yn parhau'r wythnos hon gyda Paramore yn Stadiwm Principality.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 18 June 2024

Gyda dros ugain o brif berfformwyr yn paratoi i berfformio yng Nghaerdydd yr haf hwn, ochr yn ochr â lein-yp llawn yn lleoliadau annibynnol y ddinas a Gŵyl Gerdd Dinas Gaerdydd yn yr hydref, efallai mai 2024 fydd blwyddyn fwyaf Caerdydd ar gyfer cerddoriaeth hyd yn hyn.

I ddathlu, byddwn yn tynnu sylw at rhai o straeon y flwyddyn lwyddiannus hon ar gyfer perfformiadau byw yn y ddinas drwy siarad â’r cefnogwyr, y bandiau a’r dalent du ôl i’r llenni am yr hyn sy’n gwneud Caerdydd yn lle mor arbennig ar gyfer cerddoriaeth fyw. 

Ar gyfer ein herthygl ddiweddaraf, rydyn ni'n siarad â'r superfan Paramore, Tam, am weld ei hoff artist yn perfformio yn y ddinas!

Tam, pryd wnaethoch chi ddod yn gefnogwr mor fawr o Paramore? 

Fe ddes i, fel llawer o bobl eraill, yn gefnogwr yn syth ar ôl clywed 'Misery Business' ar Kerrang! Roeddwn i tua 12 oed, a gwnes i archwilio’n ddwfn ar YouTube, yn gwylio eu holl fideos cerddoriaeth. Rwy’n cofio moedro gymaint ar Haley Williams (na wnaeth), ac yn llawn edmygedd o’i dawn gerddorol.

Faint o gyngherddau Paramore ydych chi wedi bod iddyn nhw?

Dim, gwaetha’r modd! Gan mai band Americanaidd ydyn nhw, ychydig iawn o gyfleoedd rydw i wedi'u cael i'w gweld nhw'n fyw.

Beth sydd mor arbennig am sioe Paramore?

O'r fideos byw ar-lein, mae'n ymddangos mai Haley yw'r hyn sy'n arbennig am Paramore. Mae sawl aelod o’r band wedi mynd a dod, ond mae un peth wastad wedi aros yn gyson - eu merch flaen.

Beth sy'n wahanol am weld Paramore yma yng Nghaerdydd?

Galla i ddychmygu'r Cymry yn cael ychydig mwy o hwyl arni  mewn gigiau. Nid yn aml y daw bandiau mawr i lawr i'r ‘Diff’, felly pan maen nhw'n dod, rydych chi'n gwybod ei fod yn mynd i fod yn barti!

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl mynd i'r sioe? 

Diffoddwch eich ffôn. Ewch i mewn gyda'r dorf. Neidiiwch yn y mosh. Canwch. Sgrechwch. Collwch eich llais. Prynwch rywfaint o’u nwyddau. A sicrhewch eich bod yn mynd adref yn ddiogel.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event