Dywedwch wrthym amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol
Cefais fy ngeni a'm magu yn Cheltenham, a dechreuais ar fy nhaith greadigol pan ddechreuais ymddiddori mewn Ffotograffiaeth. Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i wastad eisiau bod yn ffoto-newyddiadurwr i’r National Geographic, hynod benodol, dwi'n gwybod! Yna pan gyrhaeddais yr ysgol uwchradd, dechreuais ymddiddori mwy mewn ffilm, a dewisais Astudiaethau Ffilm a'r Cyfryngau ar lefel TGAU, a Ffilm a Ffotograffiaeth ar gyfer Lefel A. Yna des i Brifysgol Caerdydd ac astudio Cyfryngau a Chyfathrebu am 3 blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe wnes i hefyd wneud rhywfaint o waith llawrydd i amrywiaeth o gwmnïau. Dechreuodd gydag interniaeth yng Ngŵyl Ffilm Fer LGBTQ+ Gwobr Iris, ac yna ymlaen i weithio gyda Chaerdydd Creadigol, Fio, ac yn y pen draw Gŵyl Animeiddio Caerdydd, lle cynhaliais fy nigwyddiad byw cyntaf.
Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?
Fy Ngham Creadigol Cyntaf yw cynnal fy nigwyddiad byw cyntaf.
Ym mis Mawrth eleni, ychydig cyn i mi orffen fy ngradd, cefais wahoddiad gan Ŵyl Animeiddio Caerdydd i gynnal sesiwn holi-ac-ateb gyda’r animeiddiwr Harry Hambly, sy’n adnabyddus am y ‘little pink bean’, ac ar y cyfryngau cymdeithasol fel @Ketnipz. Cefais gyfle i siarad â Harry am tua 45 munud, a buom yn siarad am bopeth i wneud ag animeiddio, gweithio yng Nghaerdydd ac ar draws yr Unol Daleithiau, y broses o animeiddio’r cymeriad, ac ychydig am yr hyn yr oeddem yn ei gael i swper pan ddaeth y capsiynau byw i ben...
Roedd yn gyfle anhygoel a arweiniodd at i mi gael y swydd rydw i ynddi nawr, yn ogystal â chyfle cynnal arall! Siaradais â Lauren (Cyfarwyddwr Gŵyl CAF) ar ôl y digwyddiad am faint wnes i ei fwynhau a sut byddwn i wrth fy modd yn gweithio gyda nhw eto yn y dyfodol, ac roeddwn yn falch iawn ei bod yn gallu siarad gydag ambell le yr oeddwn wedi gweithio’n llawrydd iddynt, a chreu rôl i mi allu gweithio gyda nhw ar sail tymor hwy! Gofynnodd BAFTA Cymru i mi hefyd i gynnal digwyddiad tebyg yn Guru Live Cymru yn seiliedig ar yr adborth o fy nigwyddiad CAF!
Beth oedd yr her fwyaf?
Yr her fwyaf a wynebais yn bendant oedd dysgu sut i lywio cynulleidfa fyw. Yn fy mhrofiadau o gynnal digwyddiad cyn hyn, dim ond ar sail wedi'i recordio ymlaen llaw yr oeddwn erioed wedi gweithio, ac felly nid oedd yn rhaid i mi boeni erioed am ymatebion y gynulleidfa oherwydd nid oeddwn yn eu gweld! Y tro hwn, roeddwn yn bryderus iawn am ddweud rhywbeth oedd i fod yn ddoniol a neb yn chwerthin, neu'n gwneud llanast o gwestiwn a fod pobl yn sylwi am nad oeddwn yn gallu ddechrau eto a'i olygu.
Allwch chi rannu awgrymiadau i bobl eraill a hoffai gynnal eu digwyddiad eu hunain?
1. Byddwch chi'ch hun, BOB AMSER - Mae mor bwysig bod yn onest pan fyddwch chi o flaen cynulleidfa, felly peidiwch â cheisio bod yn unrhyw un heblaw chi, oherwydd bydd pobl yn sylwi os ydych chi'n cymryd persona hollol newydd pan fyddwch chi'n cynnal digwyddiad.
2. Croesawch y camgymeriadau - Weithiau mae pethau'n mynd o chwith, felly cymerwch popeth gam wrth gam a cheisiwch beidio â chynhyrfu. Yn fy nigwyddiad CAF, fe wnaeth y capsiynau byw fethu ac roedd yn rhaid i ni ddod a’r cyfweliad i ben fel nad oedd neb yn colli unrhyw wybodaeth. Penderfynais yn erbyn distawrwydd anghyfforddus wrth iddynt weithio i'w drwsio, a siaradais i a Harry am beth oeddem yn mynd i'w gael i swper y noson honno yn lle hynny. Roedd yn sgwrs hollol ar hap, ond hyd heddiw mae pobl yn dal i siarad â mi amdano a pha mor dda y gwnes i (yn ôl nhw) ddelio â’r gwall technegol a pha mor braf oedd gweld pobl yn siarad am bethau arferol yn ogystal â'r pwyntiau siarad a drefnwyd ymlaen llaw !
3. Cymerwch ran yn y cwestiynau - rwy'n ei gweld hi’n ddefnyddiol iawn i fod yn rhan o'r broses o ymchwilio ar gyfer digwyddiad byw. Mae'n gwneud cymaint o wahaniaeth pan fydd gennych chi fwy o fewnbwn gyda'r cwestiynau/pwyntiau siarad, fel nad ydych chi'n darllen o sgript yn unig. Mae'n gwneud i'r cyfweliadau lifo'n llawer gwell ac yn eich cadw'n rhan o'r sgwrs, yn ogystal â rhoi lle i chi fynd oddi ar y sgript a gofyn cwestiynau perthnasol sy'n dod i'ch meddwl yn ystod y digwyddiad!
Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?
Symudais i Gaerdydd 3 blynedd yn ôl i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd a phrin rwyf wedi edrych yn ôl ers hynny. Er fy mod yn caru fy nhref enedigol, Cheltenham, mae cymaint mwy yn digwydd yma! Rwyf wrth fy modd â’r gymuned glos yn y sector creadigol yng Nghaerdydd, ac rwyf wrth fy modd â’r amrywiaeth yn y sectorau, gyda chymaint o bobl yn greadigol mewn gwahanol ffyrdd.
Erthygl Camau Creadigol Cyntaf
Hoffech chi gael eich cynnwys? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf (profiad mewn diwydiant am y tro cyntaf) i'w rannu gyda'n cymuned.