Poster Caerdydd Creadigol: Alison Howard

Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi comisiwn yn chwilio am wyth artist i ddylunio fersiwn o’n logo, oedd yn ateb i'r cwestiwn ‘Beth mae creadigrwydd Caerdydd yn ei olygu i chi?’.

Gellir gweld yr wyth dyluniad gwych a ddewiswyd ar gyfer y comisiwn hwn ar bosteri mewn lleoliadau ar draws canol dinas Caerdydd. Dewch o hyd iddynt i gyd a rhannwch eich ffefryn gan ddefnyddio'r hashnod #caerdyddcreadigol.

Darganfod mwy am un o'n hartistiaid, Alison Howard:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 7 July 2023

 

An image of Alison Howard

Dywedwch wrthym amdanoch chi'ch hun a'ch cefndir creadigol

Yn 2022, fe wnes i raddio mewn BA darlunio o Brifysgol De Cymru, Caerdydd. Rwy'n dod yn wreiddiol o Sutton Coldfield, Birmingham a symudais i Gaerdydd ar gyfer fy astudiaethau, ac rwyf wedi byw yma ers hynny!

Rwyf wrth fy modd yn creu darluniau ar gyfer llyfrau lluniau plant ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ddarlunio llyfr lluniau gwreiddiol yr wyf wedi ei ysgrifennu. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn prosiectau creadigol eraill, megis A Dog’s Trail South Wales (mewn partneriaeth â Wild in Art, Peanuts and Dog’s Trust Caerdydd), lle darluniais fy nyluniad fy hun ar gerflun Snoopy a liwiodd y cyhoedd cyn cael ei werthu mewn ocsiwn i godi arian i Dog's Trust. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gydag elusennau a defnyddio fy narluniau i hyrwyddo gwahanol achosion.

Sut byddech chi'n disgrifio'ch gwaith?

Rwyf wrth fy modd yn defnyddio cyfryngau cymysg - fel arfer inciau a gweadau dyfrlliw o fewn lluniau digidol - i greu darluniau bywiog ac amrywiol ar gyfer gwahanol brosiectau. Mae pobl wrth galon fy ngwaith bob amser, ac rydw i wrth fy modd yn defnyddio fy llais fel darlunydd i godi ymwybyddiaeth am bynciau sy'n bwysig i mi - yn enwedig pethau fel iechyd meddwl a lles. Fel darlunydd queer ac awtistig, rwyf hefyd yn sicrhau bod fy ngwaith yn gwneud ei orau i gynrychioli amrywiaeth ein byd i hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb.

Dywedwch wrthym am eich dyluniad ar gyfer y comisiwn hwn

Mae fy nyluniad wedi’i ysbrydoli gan fannau gwyrdd Caerdydd, tirweddau hanesyddol, ac ymdeimlad o gymuned. Gwnaeth siâp Logo Caerdydd Creadigol i mi feddwl am waith tirlunio hardd Gerddi Friary. Cefais fy ysbrydoli i greu darlun bywiog yn darlunio’r ysbryd cymunedol hanesyddol, cyfoes ac amrywiol sy’n rhan annatod o ddiwylliant Caerdydd, gan ddefnyddio’r logo i gynrychioli ardal o fywyd go iawn o Gaerdydd lle mae llawer o bobl yn mynd i ymlacio a dadflino. Roeddwn i eisiau cynnwys cymaint o nodweddion eiconig Caerdydd â phosibl gan ddefnyddio manylion efallai na fydd pobl yn eu gweld ar yr olwg gyntaf.

Beth mae Caerdydd yn ei olygu i chi?

Mae Caerdydd yn lle hynod o bwysig i mi gan mai dyma le des i o hyd i’r hyn sy’n fy ysbrydoli fel darlunydd ac mae wedi fy arwain i gwrdd â llawer o bobl sydd wedi dod yn rhan enfawr o fy mywyd, gan gynnwys fy mhartner. Dyma hefyd lle treuliais i'r pandemig, a oedd yn brofiad bywyd newydd a heriol, yn enwedig byw'n annibynnol am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o ysbryd cymunedol yn y ddinas, sef un o'r prif resymau y penderfynais aros yma ar ôl fy astudiaethau. Mae wedi dod yn gartref newydd i mi ac mae ganddo lawer o atgofion melys i mi.

Poster Alison

Alison's poster

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event