I ddathlu’r diwrnod yng Nghaerdydd Creadigol, mae Jess a Carys wedi dewis eu hoff alawon Cymraeg ar gyfer rhestr chwarae Dydd Miwsig Cymru Caerdydd Creadigol.
Jess Mahoney, Rheolwr Caerdydd Creadigol
Un o fy hoff bethau am sector creadigol Caerdydd yw’r amrywiaeth sy’n dod i’r amlwg drwy ddiwylliant dwyieithog Cymru, ac nid yw hynny’n cael ei arddangos yn unman amlycach nag yn sîn gerddoriaeth ffyniannus ein prifddinas. Er nad ydw i’n siaradwr Cymraeg arbennig o hyderus fy hun, mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn ffordd o gysylltu â’r Gymraeg mewn ffordd oedd yn teimlo’n gynhwysol ac yn hygyrch i mi. Boed yn dysgu geiriau’r caneuon Cymraeg a glywais yn cael eu perfformio gan gorau meibion wrth imi dyfu yn y cymoedd, neu fod yn llawn cyffro bod fy nealltwriaeth o’r Gymraeg yn yr ysgol yn cynnwys deall y corws yng nghân anthemig ‘Patio Song’ Gorky’s Zygotic Mynci, mae cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn rhan fawr o fy mhrofiadau diwylliannol arloesol. Mae'n wych bod Dydd Miwsig Cymru yn amlygu gwaith arloesol artistiaid Cymraeg, ac yn helpu i ddod â miwsig Cymraeg i gynulleidfaoedd ehangach ledled y DU ac yn rhyngwladol. A gyda chymorth llwyfannau pwysig fel Tafwyl a Gŵyl Sŵn yn mynd o nerth i nerth yn y ddinas, gorau po hiraf y bydd hyn yn parhau.
Carys Bradley-Roberts, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle gwych i rannu’r gorau o gerddoriaeth Gymraeg, ymhell ac agos! Roedd y rhan fwyaf o’m profiadau diwylliannol cyntaf yn ymwneud â miwsig Cymraeg, o’r Eisteddfod i Faes B, i Ŵyl Rhif 6 i Tafwyl, ac roedd trac sain fy mlynyddoedd mwyaf ffurfiannol bron yn gyfan gwbl yn cynnwys cerddoriaeth Gymraeg. Mae gen i gymaint o hoff artistiaid Cymraeg ac mae'n anodd dewis ffefryn - ond ar hyn o bryd, dwi’n methu stopio gwrando ar Gruff Rhys, Gwenno, Kim Hon, Sister Wives, Los Blancos, Sage Todz, Adwaith a'r ddau artist gwych a berfformiodd yn ein Parti Nadoligaidd – Dead Method a Danielle Lewis! Gobeithio y gwnewch chi fwynhau ein rhestr chwarae, sy’n cynnwys rhai o’r artistiaid hyn a llawer mwy.
Rhestr chwarae Dydd Miwsig Cymru Caerdydd Creadigol
Gwrandewch ar ein rhestr chwarae Dydd Miwsig Cymru:
Gigs Dydd Miwsig Cymru
10 Chwefror - High Grade Grooves yn cyflwyno…Dydd Miwsig Cymru yn Porters Cardiff (mynediad am ddim), rhagor o wybodaeth.
10 Chwefror - Dydd Miwsig Cymru yng Nghlwb Ifor Bach, gyda Tara Bandito a Dom a Lloyd (mynediad am ddim), rhagor o wybodaeth.
10 Chwefror - Gig Merched yn Gwneud Miwsic a Beacons Cymru gyda Chroma, Eadyth a Francis Rees yng Nghlwb y Bont, Pontypridd (£5 wrth y drws), rhagor o wybodaeth.