Nod lleoliad Cabaret newydd Canolfan Mileniwm Cymru yw bod yn ofod diogel a chynhwysol i bawb, gyda rhaglen amrywiol, tocynnau fforddiadwy, a pherfformiadau hamddenol, wedi'u curadu gan y cynhyrchydd Peter Darney.
Dywedodd Peter, a gynhyrchodd hefyd ddwy sioe gabaret Nadolig i oedolion a werthwyd allan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru – XXXmas Carol (2021) a The Lion, the B!tch and the Wardrobe (2022):
Gyda Cabaret roeddem am greu rhaglen mor amrywiol â phosibl a gwneud yn siŵr ei bod yn parhau i fod yn fforddiadwy mewn cyfnod mor anodd. Mae'n mynd i fod yn wyllt, yn bryfoclyd ac yn hwyl.
Mae noson Bhangra, perfformiadau cyfeillgar i ddementia, a rhywbeth i'r ifanc a'r rhai ifanc eu hysbryd. Rydyn ni eisiau creu cymuned arbennig yma yn Ne Cymru – man diogel lle gallwch chi fod yn chi eich hun, canfod eich hun, a cholli eich hun.
Rhaglen wanwyn Cabaret
Yn ogystal ag amrywiaeth o artistiaid a pherfformwyr gwadd, bydd Canolfan Mileniwm Cymru hefyd yn cynhyrchu dau gynhyrchiad yn fewnol ar gyfer ei lleoliad newydd. Mae’r rhain yn cynnwys sioe gerdd hunangofiannol Luke Hereford Grandmother’s Closet, a Queerway, dathliad llawn secwinau o bobl Queer.
Bydd Cabaret hefyd yn cynnwys perfformiadau gan y digrifwr Steffan Alun, y cwmni cabaret Cymreig Cwm Rag, y triawd bwrlesg cerddoriaeth fyw Big Band Burlesque ac amrywiaeth o gynyrchiadau theatr comedi, drag a gig eraill.
Datblygiadau newydd Canolfan Mileniwm Cymru
Mae Cabaret yn rhan o gynlluniau ac uchelgeisiau ehangach Canolfan Mileniwm Cymru i ddod yn ganolbwynt creadigol i bawb, sy’n cynnwys adnewyddiad sylweddol i gyntedd y brif fynedfa.
Nod ei ofod Cabaret newydd 120 sedd yw arddangos a dathlu talent newydd yng Nghymru, gan ddod â blas o Soho i Fae Caerdydd.