Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
Mae'r tîm Digidol a Brand yn gyfrifol am gynyddu a chynnal cynulleidfaoedd cynaliadwy ac ymwelwyr achlysurol ar gyfer ystod eang o weithgareddau a chwsmeriaid.
Mae’r Rheolwr/wraig Marchnata yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu ymgyrchoedd i gefnogi pob digwyddiad sydd â thocynnau – gan ddarparu cynulleidfaoedd, ymwelwyr a refeniw ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau gan gynnwys sioeau teithiol y ‘West End’ a chynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru ei hun gan gynnwys ein gŵyl ryngwladol, ‘Llais’, a’n rhaglen gabaret bywiog.
Bydd deiliad y swydd yn atebol i’r Uwch Reolwr Marchnata ac yn gweithio’n agos â chynhyrchwyr allanol a mewnol i gyflwyno ymgyrchoedd marchnata aml-sianel sydd wedi’u cyllidebu a mentrau datblygu cynulleidfaoedd i gynnal ein cynulleidfaoedd presennol a thyfu cynulleidfaoedd newydd.
Cyflog: £28,000 y flwyddyn
Am fwy o fanylion am y rôl a fwy o fanylion am ein buddion staff cystadleuol, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/buddion-staff
Proses Ymgeisio:
- Ewch https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/swyddi-gwag ac adolygu'r nodiadau canllaw i wneud cais am y rôl (mae'r ddogfen hon yn cynnwys Gwerthoedd Canolfan y Mileniwm).
- Llenwch y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Adolygu'r Proffil Rôl ar gyfer y swydd a lawrlwytho ffurflen glawr y Ganolfan.
- Anfonwch eich CV a'ch Ffurflen Clawr wedi'i llenwi at recriwtio@wmc.org.uk
Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.