Gŵyl am ddim yng Nghastell Caerdydd yw Tafwyl, yn arddangos cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg i Gaerdydd gyfan a thu hwnt. Fydd y penwythnos yn cynnwys cerddoriaeth, sgyrsiau, digwyddiadau, marchnad a bwyd ar Ddydd Sadwrn 18 Mehefin a Dydd Sul 19 Mehefin. Mae’r rhestr berfformio llawn nawr ar gael.
Ar 12 Mai, cyhoeddwyd rhaglen Wythnos Ffrinj Tafwyl. Fydd yr wythnos yn cynnwys amryw o ddigwyddiadau i blant, teuluoedd, pobl ifanc, myfyrwyr a ffans selog Tafwyl.
Meddai Caryl McQuilling, Trefnydd Tafwyl:
“Ni wrth ein bodd i gyhoeddi’r amserlen yma heddiw sy’n cynnwys llu o ddigwyddiadau amrywiol fydd yn ddechrau gwych i ddathliadau Tafwyl yn y brifddinas. Ni’n falch bod y digwyddiadau yn agored i bawb - croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg i ddod i gael blas ar ddiwylliant Cymraeg ac i rai sydd yn newydd i’r diwylliant - dewch i ymuno â ni!”
Dyma flas bach ar rhai digwyddiadau sy'n cael ei gynnal dros wythnos ffrinj:
Dragwyl
Ar Ddydd Iau 16 Mehefin yn Glwb Ifor Bach, mae perfformwyr Drag Cymraeg Connie Orff, Catrin Feelings, Anniben, Biwti a mwy yn gwahodd chi am noson o ddrag i ddathlu popeth camp, Cwîr a Chymraeg. 18+
Meddai Catrin Feelings, sy’n cymryd rhan yn Dragwyl:
“Dwi’n rili excited i fod yn rhan o’r Drag gig cynta Cymraeg ar gyfer Tafwyl eleni. Mae’n lush i weld Drag yn gael ei gynnwys mewn rhywbeth sy’n rhan enfawr o’r diwylliant Cymraeg! Mae’n gwneud i mi deimlo yn fwy agos at fy niwylliant. Dwi’n gwybod bydd Dragwyl yn out of this world! Rupauls Drag Race step down, here comes Dragwyl!”
Amser Stori
Yn cael ei gynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws y ddinas drwy gydol Wythnos Ffinj, mae Amser Stori yn ddigwyddiad am ddim ar gyfer plant 0 – 4 mlwydd oedd, gyda stori, canu, crefft a chymdeithasu.
Gweithdai ym Mhrifysgol De Cymru (PDC)
Ym Mhrifysgol De Cymru dros Wythnos y Ffrinj, fydd nifer o weithdai yn cael ei gynnal ar amryw o bynciau, gan gynnwys Cerddoriaeth Broffesiynol, Animeiddio a Ffasiwn Gynaliadwy. 14/15+ (yn dibynnu ar y gweithdy)
Bwrlwm Tafwyl
Fydd Bwrlwm Tafwyl yn dod a gweithdai crefft a gwyddoniaeth i blant 7 – 12 mlwydd oed yn Splott a Pontcanna.
Twrw X Tafwyl
Fydd y bandiau poblogaidd Yr Ods a Breichiau Hir yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o Twrw X Tafwyl yn Wythnos y Ffrinj. 18+
Rhaglen lawn
Yn ogystal â’r uchod, fydd hefyd Gweithdy Hunan Hyder, Sgwad Sgwennu, perfformiadau theatr, lansiad llyfr, helfa drysor yn y ddinas a llawer mwy. Gallwch nawr archwilio’r rhaglen lawn Ffrinj a’r rhestr berfformio ar wefan Tafwyl.