Rheolwr/wraig E-Fasnach

Cyflog
£26,000
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
28.05.2021
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 14 May 2021

Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi’i heffeithio’n sylweddol gan bandemig y Coronafeirws, a caewyd ein drysau ym mis Mawrth 2020. Mae ein hadeilad yn parhau i fod ar gau, ond rydym yn gobeithio ailagor yn y dyfodol agos ac y bydd modd i ni greu refeniw masnachol unwaith yn rhagor. Rydym wedi derbyn cyllid brys i’n helpu ni oroesi’r argyfwng a’n helpu ni weithredu’n hamcanion er gwaetha’r diffyg refeniw masnachol.

Er bod pandemig y Coronafeirws wedi cau ein theatr a’n hadeilad, rydym yn gweithio’n galed tu ôl i ddrysau caeedig, er mwyn cadw’r celfyddydau’n fyw.

Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am helpu i gyfathrebu a sefydlu rôl Canolfan Mileniwm Cymru fel canolfan celfyddydau perfformio genedlaethol Cymru, gan gynnwys ei rhaglen gyfoethog o gynyrchiadau teithiol, cynyrchiadau mewnol a wnaed yng Nghymru, cynyrchiadau sy’n ymweld, gwyliau, ynghyd â mentrau dysgu creadigol ac allgymorth uchelgeisiol trwy lwyfannau marchnata digidol allweddol.

Byddant yn arwain ar redeg ein rhaglen e-bost helaeth i dros 150,000 o danysgrifwyr, ymgyrchoedd hysbysebu digidol drwy chwilio taledig, PPC ac ail-dargedu ynghyd ag arwain y broses o ddatblygu a chynyddu ein llwybr prynu.

Bydd y Swyddog Digidol yn arbenigo ar Wordfly (neu blatfform e-bost), yn ddawnus wrth greu rhaglen cymhellol o e-byst ar draws ymgyrchoedd ac yn mwynhau ymgymryd â phrofion A/B er mwyn gwella perfformiad.  Bydd ganddynt nifer o flynyddoedd o brofiad o redeg ymgyrchoedd marchnata digidol drwy e-bost, PPC ac ail dargedu effeithiol o ran cyrhaeddiad ac effaith.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol awch am gynyddu’r llwybr prynu, gwella’r cyfraddau gollwng a lleihau’r basgedi sydd wedi eu gadael yn wag.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.