Mae pobl greadigol o Gaerdydd wedi rhannu eu straeon ac edrych yn ôl ar 2020 yn y ddinas i greu wal stori gyntaf Ein Caerdydd creadigol.
Y comisiwn, y talwyd amdano gan Caerdydd Creadigol, oedd creu darn o waith yr un sy'n amlygu'r hyn sydd eisoes yn digwydd ac sy'n hysbys yn ein dinas greadigol, beth sy'n anweledig a/neu'n anhysbys a beth allai ddigwydd yn y dyfodol.
Mae'r casgliad Ein Caerdydd creadigol cyntaf yn cynnwys llythyr serch i Gaerdydd, sgets gomedi, cyfres o ffotograffau'r cyfnod clo, rhaglen ddogfen fach am rap pidgin gan rychwantu amrywiol sectorau yn cynnwys opera, carnifal a'r celfyddydau gweledol.
Mae'r gwaith newydd wedi'i gasglu i greu wal stori ddigidol ar wefan Caerdydd Creadigol sy'n cynnwys y darnau pwrpasol, disgrifiad ysgrifenedig dwyieithog a disgrifiad sain yng ngeiriau'r bobl greadigol eu hunain.
Y bobl greadigol a gomisiynwyd yn 2020 yw Alyson Henry, Beth Blandford, Gareth John a Morgan Thomas, Ian Cooke-Tapia, Jason Mohammad, Jeremy Huw Williams, Katie Harrington, Keith Murrell, Magnus Oboh, Martyn Wilson, Molly Caenwyn, Rosie Moriarty-Simmonds OBE, Sandra Gustafsson a Tamsin Griffiths.
Dywedodd Vicki Sutton, Rheolwr Prosiect Caerdydd Creadigol: “Gweithio ar brosiect Ein Caerdydd creadigol yr haf hwn oedd un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i mi. Roedd yn wych gallu dod â phobl greadigol at ei gilydd (er ei fod ar-lein!) ar draws y sectorau a phrofi'r ffordd y cysyllton nhw a chydweithio ar eu darnau.
Rwy'n credu bod y wal stori'n dod â chipolwg bach o'r gymuned greadigol enfawr a gwych yma yng Nghaerdydd yn fyw. Rwy'n gobeithio y bydd ein cynulleidfaoedd yn mwynhau profi'r wal stori ac efallai'n darganfod gwaith pobl greadigol nad oedden nhw’n gwybod amdanyn nhw o'r blaen.
Manteisiodd y prosiect adrodd straeon digidol hefyd ar arbenigedd Lisa Heledd Jones (Cyfarwyddwr Storyworks), Richie Turner (Rheolwr Deori Prifysgol De Cymru ac aelod o Grŵp Cynghori Caerdydd Creadigol) a Dr Jenny Kidd (Darllenydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd).
Dywedodd Dr Jenny Kidd, sydd wedi ysgrifennu darn myfyriol am y prosiect: “Mae Ein Caerdydd creadigol wedi bod yn brosiect difyr ac iachusol iawn i gymryd rhan ynddo, yn enwedig o ystyried amgylchiadau hynod heriol yr ychydig fisoedd diwethaf.
“Mae'r pandemig yn parhau i effeithio'n fawr ar y sector creadigol a diwylliannol yng Nghaerdydd a thu hwnt, a does dim golwg y bydd y caledi dilynol yn dod i ben i lawer o ymarferwyr.
"Mae prosiect Ein Caerdydd creadigol yn cyfleu profiad byw rhywfaint o'r ansicrwydd hwnnw, ac ar yr un pryd mae'n arddangos amrywiaeth cyfoethog ac ysbryd oesol creadigrwydd ar draws y ddinas."
Gallwch weld wal stori Ein Caerdydd Creadigol yma: https://creativecardiff.org.uk/our-creative-cardiff-storywall