Cardiff Animation Festival yn cyhoeddi ei Rhaglen Lawn

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 9 March 2020

Cardiff Animation Festival yn cyhoeddi ei Rhaglen Lawn

Cynhelir yr ŵyl rhwng 2-5 Ebrill

Tocynnau ar werth nawr!

Mae Cardiff Animation Festival wedi cyhoeddi rhaglen lawn yr ŵyl gan gynnwys; ffilmiau hir fel I Lost My Body a Swallows of Kabul; arddangosfa bedwar diwrnod o setiau a modelau  Aardman; dosbarthiadau meistr ar gyfres newydd The Adventures of Paddington™ a’r ffilm hir animeiddio tywod o Gymru Heart of Darkness; gweithdai; paneli diwydiant; cyfle i rwydweithio; partïon a llawer mwy.

Bydd yr ŵyl yn dangos ffilmiau fel I Lost My Body (cyf. Jérémy Clapin) gafodd ei chynhyrchu gan Netflix a’i henwebu am Oscar, ar y sgrin fawr yng Nghaerdydd am y tro cyntaf. Bydd yr antur drawiadol am statws cymdeithasol, llencyndod a chanfod eich lle yn y byd i’w gweld ar ddydd Sul 5 Ebrill. Gall rhieni a gofalwyr gyda babanod weld y ffilm ar ddydd Gwener 3 Ebrill, fel rhan o fenter Rhiant a Babi Chapter.

Bydd Swallows of Kabul (cyf. Zabou Breitman ac Eléa Gobbé-Mévellec), stori am gariad a gobaith dan rym y Taliban yn Kabul 1998, yn parhau ar ei thaith drwy’r gŵyliau wedi ymddangos yn Cannes ac Annecy. Yn dilyn y ffilm anibynnol STRIKE cynhelir sesiwn C+A gyda’r cyfarwyddwr Trevor Hardy wrth iddo esbonio sut aeth ati i greu ffilm o ddeunyddiau ailgylchu. Llwyfannir dangosiad hamddenol hefyd o Farmageddon (cyf. Will Becher, Richard Phelan) gan feistri Aardman.

Caiff cynulleidfaoedd gyfle i ryfeddu at setiau a modelau ffilmiau Farmageddon ac Early Man, mewn arddangosfa bedwar diwrnod o waith rhyfeddol stiwdio Aardman o Fryste, fydd ar agor i bawb drwy gydol yr ŵyl.

Cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau i’r teulu cyfan dros y penwythnos, gan gynnwys cyfle arbennig i wylio pennodau a chael cip tu ôl i’r llenni ar y gyfres CGI newydd The Adventures of Paddington™ gan Blue Zoo Animation ar gyfer StudioCanal a Nickelodeon, yng ngwmni’r Cynhyrchydd Simon Quinn. 

Bydd Lorraine Lordan yn ymuno â ni o Iwerddon i arwain dosbarth meistr ar ei gyrfa animeiddio ryfeddol gyda’r stiwdio Wyddelig enwog Cartoon Saloon. Mae Lorraine wedi gweithio fel cyfarwyddwr animeiddio ar ffilm The Breadwinner a enwebwyd am Oscar, fel goruchwylydd animeiddio ar y gyfres brydferth i blant Puffin Rock ac fel animeiddiwr effeithiau arbennig ar y chwedl Wyddelig The Secret of Kells, a enwebwyd hefyd am Oscar. 

Mae’r ffilm hir animeiddio tywod gyntaf erioed wrthi’n cael ei chreu yma yng Nghaerdydd! Ymunwch â’r cyfarwyddwr Gerald Conn wrth iddo drafod yr addasiad o glasur enwog Joseph Conrad gyda chynulleidfa Cardiff Animation Festival.

Mae’r ŵyl wedi cydweithio â Darkened Rooms i ddod â Chastell Caerdydd yn fyw gyda diwrnod o ffefrynnau ffilm. Yn sinema tanddaearol y Castell bydd cyfle i weld clasuron y byd animeiddio, gan gynnwys Sleeping Beauty, Fantastic Mr Fox gan Wes Anderson, clasur cwlt Batman: Mask of the Phantasm, yr anime poblogaidd Your Name a Cyfrinach Llyfr Kells, addasiad Cymraeg S4C o ffilm hudol Cartoon Saloon.

Ymhlith y digwyddiadau diwydiant bydd sgyrsiau rhwydweithio ar y cyd â ScreenSkills, yn rhoi cyfle i bobl newydd i’r diwydiant animeiddio neu sy’n gweithio’n llawrydd, i rwydweithio a dysgu gan weithwyr proffesiynol. Bydd paneli o arbenigwyr hefyd yn canolbwyntio ar adrodd straeon, cynhyrchu, a chynhwysiad yn y diwydiant animeiddio, a chyfle i animeiddwyr gael cyngor proffesiynol ar eu gwaith newydd yn Animation Grill, fydd yn ailgynnau yn Cardiff Animation Festival 2020. Yn ogystal â rhwydweithio ffurfiol, gall pawb hefyd ymlacio a mwynhau mewn partïon bob nos, gan gynnwys Disgo Fideos Cerddoriaeth ar y cyd â Club Foot Foot gyda’r cyfarwyddwr fideos Casey Raymond yn troelli.

Bydd yr ŵyl yn rhoi llwyfan i dalent animeiddio neuroamrywiol, gyda rhaglen o ffilmiau byr wedi’u creu drwy broject Different Voices Biggerhouse Film. Yn ogystal â sesiwn C+A i ddilyn gyda’r cyfarwyddwyr, cynhelir trafodaeth am neuroamrywiaeth yn y diwydiant a gweithdy animeiddio dan arweiniad cynhyrchwyr ffilmiau neuroamrywiol ar noswyl yr ŵyl, ddydd Mercher 1 Ebrill. 

Ymhlith y gweithdai bydd cyfle i greu yn awyr iach Caerdydd gyda’r animeiddiwr gwobrwyog Gustavo Arteaga, gweithdy iaith Gymraeg gyda’r animeiddiwr fesul ffrâm Laura Tofarides, sesiwn ddarlunio ar y cyd â Illustration Club a gweithdy dylunio cymeriadau gyda’r animeiddiwr a’r artist amryddawn Kyle Legall, fydd hefyd yn cynnal dosbarth meistr ar ddydd Sadwrn 4 Ebrill.

Mae’r cyhoeddiadau yma yn ychwanegu at restr digwyddiadau sy’n cynnwys dosbarthiadau meistr ar greaduriaid His Dark Materials, The Rubbish World of Dave Spud, a gwaith y Cymro  Simon Chong yn cyfarwyddo Bob’s Burgers. Bydd cyfresi o ffilmiau byr thematig yn cyflwyno ffefrynnau animeiddio newydd o bedwar ban byd, partneriaethau gydag Into Film, Gwobr Iris, Chapter Moviemaker, a Creative Mornings Cardiff.

Noddir Cardiff Animation Festival 2020 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales, Canolfan Ffilm Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa’r BFI Film (FAN), BFI NETWORK Wales, ac Ymddiried drwy Gronfa Ysgoloriaeth Owen Edwards, gyda nawdd ychwanegol gan Cloth Cat Animation, Picl Animation, Creative Europe Desk UK – Cymru, Prifysgol De Cyrmu, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Jammy Custard Animation, Gwobrau Animeiddio Prydain, S4C a Chronfa Sgiliau Animeiddio ScreenSkills gyda chyfraniadau gan gynyrchiadau animeiddio o’r DU.

Cynhelir Cardiff Animation Festival 2020 rhwng dydd Iau 2 a dydd Sul 5 Ebrill yn Chapter a lleoliadau eraill ar draws y Brifddinas. Mae tocynnau Cardiff Animation Festival nawr ar werth – rhaglen lawn a thocynnau ar gael drwy cardiffanimation.com/2020.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event