Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn creu llwybrau gyrfa newydd cynhwysol i mewn i reoli’r celfyddydau

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 21 January 2020

Fel sefydliad newydd sydd wedi ymrwymo i ddatblygu perfformwyr ifanc talentog ym meysydd cerddoriaeth, y theatr a dawns o bob cwr o Gymru, mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) hefyd wedi creu cyfleoedd hygyrch i’r rheini sydd am ddilyn gyrfa ym maes rheoli’r celfyddydau, gan sicrhau bod y gweithlu’n adlewyrchiad cywir o’n haelodau a’n rhanddeiliaid.

Mae’n bleser gan CCIC groesawu dwy aelod newydd o staff, sef Rhiannon Llewellyn fel Cynhyrchydd dan Hyfforddiant a Chloe Baker fel Gweinyddwraig Celfyddydau dan Hyfforddiant. Ffurfiwyd y ddwy rôl yn y fath fodd fel y byddent yn caniatáu i CCIC chwarae ei ran wrth annog ceisiadau oddi wrth bobl ifanc o gefndiroedd cymdeithasol amrywiol, allai fod â diddordeb archwilio gyrfa yn y diwydiannau creadigol.

Eglurodd Gillian Mitchell, prif weithredwraig CCIC, “Fe edrychom ar rwystrau posibl i ymgeiswyr, gan ofyn am gyngor oddi wrth bobl ifanc yng Nghymru a rhanddeiliaid eraill a newid ein hagwedd tuag at recriwtio o ganlyniad uniongyrchol i’r sgyrsiau hynny. Fe sylweddolom mai potensial, nid profiad oedd yr hyn yr oeddem ei angen a’i eisiau. Rhoddwyd rhywfaint o griteria yn eu lle; roedd rhaid i ymgeiswyr fod o dan 25 ac wedi graddio’n ddiweddar o brifysgol yng Nghymru. Yn ogystal, roedd rhaid i ymgeiswyr fod wedi derbyn grant cynhaliaeth llawn trwy gydol eu cyfnod astudio. Wedi ein hysbrydoli gan waith Bwrsariaethau Creadigol Weston Jerwood, fe ofynnom i ymgeiswyr ddweud wrthym am yr hyn oedd yn eu hysbrydoli nhw a gwnaethpwyd y broses gyfweld mor anffurfiol ac syml â phosibl.”   

“Fe dderbyniom lawer iawn o ddiddordeb yn y rolau a chwrdd â nifer o bobl anhygoel ar y ffordd ond, yn y pen draw, roedd Rhiannon a Chloe yn teimlo fel eu bod yn gweddu’n dda. Maent wedi gwneud argraff fawr ar CCIC mewn cyfnod byr ac rydym i gyd yn mwynhau dysgu oddi wrth ein gilydd.”

Graddiodd Rhiannon Llewelyn, 23, mewn Celfyddydau Perfformio o Brifysgol De Cymru. ‘Tra roeddwn i yn yr ysgol roeddwn i ym mhob sioe a chyngerdd dan haul ac oni bai am gefnogaeth fy athro Drama dydw i ddim yn siŵr y byddwn wedi mynd i’r Brifysgol; ond dwi mor falch imi fynd! Cefais ddysgu am fyd tu ôl i’r llenni y diwydiant creadigol a sylweddoli beth oedd fy ngalwedigaeth. Mae gwybod sut y gwnaeth y celfyddydau newid fy mywyd i a sut y gall newid bywydau pobl eraill, yn golygu fy mod i’n ddiolchgar iawn i fod yn gweithio gyda CCIC ac yn gwneud gwahanaieth ym mywydau pobl ifanc. Mae CCIC wedi rhoi’r sgiliau imi rannu fy mrwdfrydedd gyda phobl eraill a siapio’r dyfodol ar gyfer pobl ifanc Cymru.’

Mae Chloe Baker, 23, newydd raddio mewn cerddoriaeth o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ble tyfodd ei ddiddordeb mewn rheoli cerddorfaol a’r celfyddydau ochr-yn-ochr â pherfformio ar y feiolin. “Fe dyfais i fyny gyda gwasanaeth cerdd ac adran chweched dosbarth anhygoel wnaeth fy arwain i fynd i’r coleg cerdd. Roedd yn bleser cael arwain Cerddorfa Symffoni CBCDC ar daith o amgylch Cymru a pherfformio i dros 3000 o ddisgyblion ysgol. Fyth ers y daith honno, rwyf wrth fy modd yn gweld pobl ifainc yn mwynhau’r celfyddydau, a dyna pam yr ydw innau’n mwynhau fy amser gyda CCIC! Rydw i wedi bod yn rhan o’r broses paratoi clyweliadau a gweithdai ar gyfer yr ensembles ac er mai cerddoriaeth yw fy nghefndir i, rydw i wedi gweithio gyda’r ensemble dawns a theatr hefyd. Rydw i wir wedi mwynhau gweithio gyda’r tîm ac yn methu aros tan y cyrsiau preswyl a’r perfformiadau yn 2020!”

Mae CCIC wedi ymrwymo i barhau i gynnig y cyfleoedd hyn i eraill ac rydym yn archwilio ffyrdd i’w hymestyn i bobl ifanc fydd yn gadael ysgol yn y dyfodol. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event